Diwrnod Agored Cyrsiau Meistr
Rhannwch y dudalen hon
Dewch i ddysgu mwy am ein rhaglenni Meistr mewn Ymwybyddiaeth Ofalgar yn y sesiynau amser cinio a chwrdd â'r athrawon ymwybyddiaeth ofalgar sy'n gweithio ar y rhaglen.
Beth i'w ddisgwyl ar Ddiwrnod Agored cwrs Meistr mewn Ymwybyddiaeth Ofalgar
Yn ystod y sesiwn Diwrnod Agored ar-lein, byddwn yn cael ymarfer ymwybyddiaeth ofalgar gyda'n gilydd, ac yna cyflwyniad am y gwahanol lwybrau y gallwch eu dilyn ar y rhaglen Meistr Ymwybyddiaeth Ofalgar, gyda digon o gyfleoedd i chi ofyn unrhyw gwestiynau.
Mae ceisiadau ar agor ar gyfer y rhaglen Meistr tan 1, Medi 2025. Gallwch ymgeisio ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ac rydym yn argymell eich bod yn ymgeisio'n gynnar i sicrhau eich lle ar y cwrs.