Cyn aelod o staff yn derbyn anrhydedd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am waith ehangu mynediad
Heddiw (dydd Mawrth, 21 Mawrth) anrhydeddir cyn-aelod o staff Prifysgol Bangor, Delyth Murphy, gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am ei chyfraniad arbennig i’r meysydd ehangu mynediad a dysgu gydol oes, a’i gwaith ar lefel strategol i hybu addysg cyfrwng Cymraeg.
Bydd Delyth yn cael ei chyflwyno gan Meri Huws, fuodd yn cydweithio â Delyth ym Mangor, yn Gymrawd er Anrhydedd mewn seremoni yng Nghaerdydd ynghyd â’r ysgolhaig dylanwadol, yr Athro Sioned Davies, a chyn-Gadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Dr Haydn Edwards.
Fel rhan o’r noson, bydd tystysgrifau hefyd yn cael eu cyflwyno i fyfyrwyr PhD am gyflawni doethuriaeth o dan nawdd Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Bu Prifysgol Bangor yn rhan annatod o fywyd Delyth Murphy ers degawdau: fel ysgrifenyddes, myfyrwraig hŷn, myfyrwraig MA ac yna yn yr Adran Dysgu Gydol Oes ac yng Nghanolfan Ehangu Mynediad y brifysgol, ble yr oedd yn Bennaeth nes ei hymddeoliad ychydig dros ddwy flynedd yn ôl.
Meddai’r Athro Andrew Edwards, y Dirprwy Is-ganghellor sy’n arwain ar y Gymraeg a Chenhadaeth Ddinesig ym Mhrifysgol Bangor, “Mae Delyth wedi gweithio'n ddiflino er mwyn hyrwyddo Ehangu Mynediad yng Nghymru, gan ymroi'n hynod egnïol am flynyddoedd lawer i sicrhau bod adnoddau'n prifysgolion yn helpu newid bywydau plant a phobl ifainc er gwell. Mae hefyd wedi bod yn lladmerydd brwd dros addysg cyfrwng Cymraeg. Ar ran y brifysgol, llongyfarchiadau mawr iddi ar dderbyn y gymrodoriaeth hynod haeddiannol hon.â€
Dywedodd Delyth Murphy, “Nid pawb sy’n gallu dweud eu bod yn cael cyflog am waith y maent yn ei fwynhau’n aruthrol ond dyma fy hanes i! Rwyf wedi gweld pobl o bob oed – rhai yn eu hwythdegau – yn graddio.
“Bûm yn aelod o Fwrdd Academaidd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol o’r dechrau nes i mi ymddeol. Diolch i’r aelodau amyneddgar am wrando ar yr un cwestiwn bron ymhob cyfarfod – “beth am y rhai sydd ddim yn 18 oed ac yn mynd yn syth o lefel A i goleg? Mae yna bwll o bobl Cymraeg eu hiaith y gallem eu denu i addysg uwch ac addysg bellach! Mae angen codi hyder, codi dyheadau a dweud ‘Gallwch, mi allwch chi gyflawni’ch breuddwydion!â€
“Gwaith tîm yw fy ngyrfa i wedi bod: tîm Dysgu Gydol Oes Prifysgol Bangor, tîm y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a thîm bychan y Ganolfan Ehangu Mynediad yn y Brifysgol nes i mi ymddeol. Felly, gyda mawr ddiolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am yr anrhydedd arbennig hon, hoffwn ei chyflwyno i’r holl rai y mae’n fraint i mi fod wedi bod yn rhan o’u taith drwy addysg.â€
Bydd y Cynulliad Blynyddol yn cael ei ffrydio’n fyw o’r Tramshed ar am 18:15, 21 Mawrth, ac mae croeso cynnes i bawb ymuno.