Yn dilyn proses gomisiynu gystadleuol, lle gwahoddwyd sefydliadau addysgiadol i gynnig am y cytundeb tair blynedd, roedd cynnig trawiadol Prifysgol Bangor yn llwyddiannus.
Mae'r cyhoeddiad yn nodi parhad yn y cydweithio rhwng yr heddlu a'r Brifysgol, sydd wedi bodoli ers 2020.
Wedi'i datblygu gan y Coleg Plismona, mae llwybrau mynediad Prentisiaeth Gradd Cwnstabliaid Heddlu (PCDA) a Rhaglen Graddedigion yr Heddlu wedi caniatáu swyddogion gyfuno dysgu academaidd ac yn y gwaith.
Mae newydd ddyfodiaid sydd wedi cofrestru ar y llwybrau mynediad hyn yn cael eu hasesu drwy gydol eu rhaglenni astudio, gydag ymgeiswyr llwyddiannus yn ennill Gradd mewn Arfer Plismona Proffesiynol neu Ddiploma Graddedig mewn Arfer Plismona Proffesiynol.
Dywedodd Julie Brierley, Pennaeth Dysgu a Datblygu Heddlu Gogledd Cymru: "Mae Heddlu Gogledd Cymru yn falch fod ei bartneriaeth gydweithredol gyda Phrifysgol Bangor yn parhau.
"Dros y tair blynedd diwethaf, mae'r Brifysgol wedi profi ei hymrwymiad i ddysgu gwych ac mae wedi cynnal ei hanes o ran dysgu ac ymchwil mewn plismona.
"Fel heddlu, mae ein cohort cyntaf o swyddogion o'r ddau lwybr mynediad bellach wedi graddio, gyda llawer wedi rhagori yn eu gwaith asesu.
"Un o brif gymhellwyr y Fframwaith ydy addysg broffesiynol a phlismona gweithredol yn eistedd ochr yn ochr. Dwi'n falch y gwnawn barhau gweithio gyda Phrifysgol Bangor yn yr ymdrech hon.
"'Da ni'n teimlo'n hyderus y gwnaiff y bartneriaeth hon roi'r cymorth a'r adnoddau gwych angenrheidiol i'n newydd ddyfodiaid lwyddo."
Dywedodd Martina Felzer, Deon Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes, ac Athro mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol: "Mae Prifysgol Bangor yn falch o fod wedi llwyddo yn y broses dendro. Mae'n caniatáu i ni barhau ein cydweithio ni gyda Heddlu Gogledd Cymru a darparu addysg ar lefel gradd i'r genhedlaeth nesaf o swyddogion heddlu.Ìý
"'Da ni newydd weld ein Swyddogion Heddlu cyntaf yn graddio. 'Da ni'n falch o chwarae rôl barhaus wrth gyflwyno dysgu ac ymchwil ar gyfer hyfforddi ac addysgu swyddogion yng Ngogledd Cymru.
"Mae ein cydweithio'n pontio sawl pwnc. 'Da ni'n awyddus cynnig arbenigedd academaidd drwy'r brifysgol i gyd, gan gwmpasu agweddau plismona perthnasol fel seicoleg, fforenseg, y gyfraith, troseddeg, trosedd, cyfiawnder a chip ar blismona.
"'Da ni'n credu'n credu mewn plismona tystiolaeth, gan wneud yn siŵr fod swyddogion yn cydnabod gwerth ymchwil academaidd yn eu gwaith bob dydd."
Ìý