Mae prosiect cydweithredol diweddar rhwng Prifysgol Bangor a Chanolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig (UKCEH) wedi dangos bod y rhan fwyaf o bobl eisiau mwy o natur fel coed a blodau gwyllt yn eu trefi a’u dinasoedd. Gweithiodd y tîm mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych i asesu canfyddiadau’r gymuned o’r newidiadau amgylcheddol sy’n digwydd yn nhref arfordirol y Rhyl yng ngogledd Cymru, a chynhaliwyd arolwg hefyd o 1,866 o bobl ledled y Deyrnas Unedig i gasglu eu barn am blannu coed a sefydlu dolydd blodau gwyllt. Dangosodd y canlyniadau fod 73% o bobl eisiau mwy o goed, a 75% eisiau mwy o ddolydd blodau gwyllt.
Nid oeddem yn disgwyl canlyniad positif mor glir. Mae pobl fel rheol yn gwrthwynebu newidiadau i’w cymdogaeth, ac mae’n galonogol gweld bod cymaint o gefnogaeth i fannau gwyrdd mewn dinasoedd a threfi. Bydd ein canlyniadau yn helpu cynghorau a thrigolion i ddylunio mannau gwyrdd lleol yn well yn y dyfodol.
Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol
Fel rhan o’i Strategaeth Newid Hinsawdd ac Ecolegol, mae Cyngor Sir Ddinbych yn darparu ymyriadau seilwaith gwyrdd trefol gan gynnwys plannu coed a sefydlu dolydd blodau gwyllt. Llwyddodd yr astudiaeth achos hon yn y Rhyl i’r timau ymchwil feintioli a chymharu buddion dau gynllun ymyrraeth arfaethedig a phedwar cynllun ymyrraeth presennol a chyfrifo’r gwerthoedd yn seiliedig ar ddata ar gyfer sŵn, carbon a llygredd aer.
Dywedodd yr Athro Laurence Jones o UKCEH, “Mae ein modelau yn dangos y manteision sylweddol y mae coed a blodau gwyllt yn eu darparu. Maent yn lleihau gwres a sŵn, ac yn rhoi aer glanach i ni a mwy o fioamrywiaeth. Mae’r canfyddiadau gwyddonol hyn yn ategu greddf pobl bod mwy o fannau gwyrdd yn well i bob un ohonom.â€
Dangosodd gyfweliadau gyda 28 o drigolion y Rhyl y canlynol:
- Dywedodd 96% o’r cyfranogwyr fod coed a dolydd blodau gwyllt yn bwysig iddynt
- Dywedodd 82% o'r cyfranogwyr ei bod yn bwysig treulio amser ynghanol coed
- Dywedodd 68% o'r cyfranogwyr ei bod yn bwysig treulio amser ynghanol dolydd blodau gwyllt
- Roedd buddion bioamrywiaeth yn bwysig i 96% o ymatebwyr
- Roedd manteision iechyd a lles yn bwysig i 100% o ymatebwyr
- Roedd manteision storio carbon yn bwysig i 57% o ymatebwyr.
Wrth adfyfyrio ar y project, dywedodd y Cynghorydd Barry Mellor, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant yng Nghyngor Sir Ddinbych, “Roeddem yn falch o fod yn rhan o’r gwaith hwn. Dangosodd ganlyniadau'r arolwg cenedlaethol a data'r Rhyl fod y rhan fwyaf o bobl wedi nodi bod creu dolydd blodau gwyllt a phlannu coed yn bwysig iddynt. Mae’r Cyngor wedi cael ein calonogi’n fawr gan yr astudiaeth hon a’r dystiolaeth ynglÅ·n â manteision y mannau gwyrdd hyn i’r gymuned, yn ogystal â byd natur, wrth i ni geisio adolygu a datblygu ein cynlluniau i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a natur ar draws y sir. Rydym ar hyn o bryd yn adolygu’r canlyniadau gyda Phrifysgol Bangor a’r Ganolfan Ecoleg a Hydroleg y Deyrnas Unedig a byddwn yn cymryd y wybodaeth a gasglwyd i ystyriaeth wrth gynllunio ymyriadau mannau gwyrdd yn y dyfodol.â€