¶º±ÆÖ±²¥

Fy ngwlad:
Darlun 3D o danwydd wraniwm

Myfyrwyr ôl-radd Bangor i chwarae rhan hollbwysig mewn ymchwil ynni niwclear newydd

²Ñ²¹±ð’r cyfraniad pwysig sydd gan Brifysgol Bangor i’w wneud o ran gwaith ymchwil ym maes tanwydd niwclear wedi’i gadarnhau’r wythnos hon wrth i’r Labordy Niwclear Cenedlaethol (NNL) gyhoeddi buddsoddiad o £9.35 miliwn mewn dau brosiect: canolfan arloesi a dylunio cyfleuster profi.

“Mae’n gyffrous gweld y lefel yma o gefnogaeth gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, sy’n sicrhau bod y sgiliau a’r gwaith ymchwil blaengar yno i gwrdd â’r uchelgaisÌýfydd ei angen i sicrhau dyfodol carbon isel i’r Deyrnas Unedig. Bydd ymchwil tanwydd niwclear yn gwneud yn siŵr ein bod yn medru cefnogi ein partneriaid gwych mewn diwydiant ac yn tyfu ein galluoedd am ddegawdau.

Trwy raglenni megis hon,Ìý mae Prifysgol Bangor yn cadarnhau lle Cymru fel gwlad arloesol a chynaliadwy, ac rydym eisiau parhau i gryfhau ein dylanwad yn y maes cyffrous hwn ymysg eraill i greu rhanbarth ffyniannus.

“Mae angen i ni feithrin peirianwyr a gwyddonwyr y dyfodol i gefnogi twf yn y maes allweddol yma, ac yma ym Mhrifysgol Bangor, mae’n bosib i fyfyrwyr ddysgu am wyddoniaeth niwclear, peirianneg deunyddiau a pheirianneg fecanyddol ar y cyrsiau Peirianneg Cyffredinol gradd Baglor a Meistr Mae croeso i chi ymweld â ni yma ym Mangor.â€

- Simon Middleburgh, Athro mewn Deunyddiau Niwclear, Sefydfliad Dyfodol Niwclear Prifysgol Bangor.

Fel rhan o , dywedodd Dr Gareth Headdock, Prif Swyddog Gwyddoniaeth a Thechnoleg y Labordy Niwclear Cenedlaethol:

“Rydym yng nghanol cyfnod cyffrous o ran datblygu tanwydd niwclear. Bydd tanwyddau datblygedig yn galluogi’r genhedlaeth nesaf o adweithyddion niwclear i ddarparu gwres gradd uchel i ddiwydiant – a fydd yn gyfraniad sylweddol at ein gallu i gyrraedd sero net. Fel labordy cenedlaethol y Deyrnas Unedig, mae’n hanfodol ein bod yn datblygu’r sgiliau a’r gallu i sicrhau, fel cenedl-wladwriaeth, y gallwn ddatblygu a chyflawni’r cylch tanwydd llawn.

“Bydd y ddau brosiect yma nid yn unig yn cyflawni gofynion uniongyrchol Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar gyfer ymchwil a datblygu tanwyddau; bydd y mewnwelediadau a gawn yn darparu cyfleoedd ar gyfer prosiectau i’r dyfodol wrth i’r byd edrych tuag at ynni niwclear iÌýgyflawni ein nodau datblygu byd-eang ar gyfer ynni glân.â€

Ìý