Daw hyn ar ôl i’r gyhoeddi ei adroddiad yn ystod yr wythnosau diwethaf yn argymell datganoli’r gwasanaeth prawf i Gymru.
Mae Grŵp Datblygu'r Gwasanaeth Prawf, sy’n rhan o Ganolfan Trosedd a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru (WCCSJ) sy’n cynnwys academyddion o Brifysgol De Cymru, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Abertawe, wedi nodi tystiolaeth a ffyrdd o weithio ar gyfer datblygu gwasanaeth prawf datganoledig yng Nghymru.
Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys meddwl am wasanaeth prawf annibynnol newydd sy'n canolbwyntio ar y berthynas oruchwyliol rhwng y swyddog prawf a'r sawl sydd ar brawf, gwell defnydd o ymyriadau ar sail tystiolaeth, adnoddau lleol, a phartneriaethau cryf.
Mae'r grŵp hefyd yn tynnu sylw at rôl bwysig y gymuned a dedfrydau cymunedol, i hyrwyddo adsefydlu effeithiol a diogelwch dioddefwyr.
Gall darparu gwasanaeth prawf yn effeithiol, meddai’r grŵp, arwain at garcharu llai costus, gostyngiadau mewn troseddu, a chymunedau mwy diogel gyda llai o ddioddefwyr troseddau.
Mae'n gyfnod cyffrous i gyfiawnder troseddol yng Nghymru. Mae'r ddadl ynghylch datganoli plismona, prawf a chyfiawnder ieuenctid, yn caniatáu i bawb ystyried beth ddylai blaenoriaethau system cyfiawnder troseddol yng Nghymru fod. Mae'r rhain yn drafodaethau cyhoeddus o bwys.  Mae’r cyfleoedd i academydd gyfrannu i'r dadleuon hyn a allai arwain at newidiadau sylweddol gan yr heddlu yn brin, ac rwy'n falch iawn fy mod wedi gwneud cyfraniad bach i'r drafodaeth hon.
Dywedodd darlithydd Troseddeg Prifysgol Abertawe a chyn uwch swyddog prawf, Ella Rabaiotti, sy’n cynnull Grŵp Datblygu'r Gwasanaeth Prawf: “Er ein bod yn cydnabod bod mwy o darfu o fewn y gwasanaeth prawf ymhell o fod yn ddelfrydol, credwn fod angen dull cryfach seiliedig ar dystiolaeth i waith prawf i helpu i fynd i’r afael â’r gwahaniaethau gwirioneddol yng nghanlyniadau cyfiawnder troseddol Cymru.
“Mater i lunwyr polisi fydd penderfynu ar ffurf Gwasanaeth Prawf Cymreig mewn ymgynghoriad priodol â’r rhanddeiliaid priodol, ond mae dysgu sylweddol yn cael ei gynnig yn ein cyhoeddiad i wella diogelwch cymunedol a chyfiawnder cymdeithasol i holl gymunedau Cymru o bosibl.â€
Wrth gyflwyno'u cynigion i Lywodraeth Cymru, mae’r wedi tynnu ar ddegawdau o ymchwil a phrofiad ym maes ymarfer a llywodraethu prawf. Nod eu gwaith yw cyfrannu at yn dilyn casgliadau a ganfu nad yw’r system cyfiawnder troseddol bresennol yn gwasanaethu pobl Cymru. Maen nhw'n dweud bod hyn bellach wedi'i atgyfnerthu ymhellach gan adroddiad newydd y Comisiwn Annibynnol.
Daw barn y grŵp Cymreig yn dilyn pryderon gan y Prif Arolygydd Prawf sy’n gadael, a ddywedodd fod safonau prawf wedi ‘gwaethygu’ yn y ddwy flynedd ddiwethaf. Ac mae canfyddiadau diweddaraf Canolfan Llywodraethiant Cymru yn dweud bod cyfradd carcharu Cymru yn parhau i fod yn uwch nag unrhyw ran arall o'r DU.
Mae Grŵp Datblygu'r Gwasanaeth Prawf yn bwriadu defnyddio eu cyhoeddiadau i gynorthwyo sgyrsiau ar ddatganoli’r gwasanaeth prawf yng Nghymru, yn ogystal â hyrwyddo cyfleoedd pellach ar gyfer ymchwil a dealltwriaeth i wasanaethau prawf effeithiol.
Mae rhagor o wybodaeth am waith Grŵp Datblygu'r Gwasanaeth Prawf a Chanolfan Troseddu a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru ar gael yn https://wccsj.ac.uk/cy/prawf.
Gellir gweld copi llawn o'r .