Mae’r rhesymau na wyddom efallai am y menywod hyn yn cynnwys gwahaniaethu yn erbyn menywod mewn cyflogaeth academaidd, dargyfeirio menywod i’r diwydiant hysbysebu neu i ganolfannau ymchwil fel cynorthwywyr, yn ogystal â hiliaeth, gwrth-gomiwnyddiaeth ac effaith parhaus y pethau hynny.
“Roedd y merched rydyn ni’n eu cyflwyno yn y llyfr hwn yn aml yn cael eu rhwystro rhag cael deiliadaeth academaidd, a hwythau ar yr un pryd yn gwneud ymchwil pwysig ac yn cefnogi gyrfaoedd academaidd eu gwŷr. Roedd cymalau nepotistiaeth mewn prifysgolion yn golygu mai dim ond un ohonynt y gellid ei gyflogi yn yr un adran yn y brifysgol; a hwnnw, fynychaf, fyddai’r gŵr. Er enghraifft, yn achos Helen Merrell Lynd, diystyriwyd ei chyfraniad sylweddol i Middletown: A ֱ in American Culture (1929) gan fod ei gŵr eisiau cyflwyno’r llyfr fel ei draethawd doethurol ei hun.
“Roedd menywod o liw, a gafodd eu gwthio hyd yn oed ymhellach i’r cyrion a’u heithrio o’r academi yn mynd ati i gyhoeddi eu beirniadaeth a’u newyddiaduraeth hwythau mewn papurau newydd. Yn achos Claudia Jones, a aned yn Nhrinidad a Thobago, ar ôl cael ei halltudio o'r Unol Daleithiau ym 1955 am fod yn aelod o'r Blaid Gomiwnyddol, daeth i Lundain. Roedd yn ffigwr pwysig yng nghymuned Garibïaidd y Deyrnas Unedig ac ym 1958 cychwynnodd y West Indian Gazette, ac yna’n ddiweddarach hi sefydlodd Garnifal Notting Hill. Mae wedi ei chladdu ym Mynwent Highgate yn Llundain; i'r chwith o Karl Marx.
“Mae The Ghost Reader yn gwahodd y darllenwyr, yn ogystal â myfyrwyr sy’n defnyddio’r llyfr yn eu dosbarthiadau, i adeiladu ar etifeddiaeth ddeallusol y menywod hyn. Ac i barhau â’r ymdrechion i adfer hanes ffeministiaeth mewn amrywiaeth eang o ddisgyblaethau academaidd o fioleg gyfrifiadol i astudiaethau’r cyfryngau!”
Cyhoeddir The Ghost Reader gan Goldsmiths Press a chaiff ei ddosbarthu gan MIT Press. I gael rhagor o wybodaeth ewch i:
Golygwyd gan Elena D. Hristova, Aimee-Marie Dorsten, Carol A. Stabile.
Cyfranwyr:
Hadil Abuhmaid, Miche Dreiling, Diana Kamin, Marianne Kinkel, Tiffany Kinney, Elana Levine, Malia Mulligan, Morning Glory Ritchie, Gretchen Soderlund, Shelley Stamp, Laura Strait, Rafiza Varão.