¶º±ÆÖ±²¥

Fy ngwlad:
Image of Dr Ceryl Davies

Economegydd gofal cymdeithasol o Brifysgol Bangor yn derbyn Cymrodoriaeth Uwch o fri

Mae economegydd gofal cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, wedi derbyn Cymrodoriaeth Uwch o fri gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal ac Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae’r Gymrodoriaeth hon yn garreg filltir arwyddocaol, nid yn unig i mi, ond i Brifysgol Bangor hefyd, gan ei bod yn nodi’r tro cyntaf i grant o’r fath gael ei ddyfarnu i’r sefydliad. Bydd yn caniatáu inni ganolbwyntio ar wella gofal sgrinio serfigol i ferched sydd wedi profi trais a chamdriniaeth rywiol. Trwy weithio gyda’n partneriaid, yn lleol ac yn rhyngwladol, ein nod yw sicrhau bod pob merch yn cael mynediad at y gofal ataliol hanfodol hwn.

Dr Ceryl Davies

Dywedodd yr Athro Julie Green, sef Pennaeth Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol Bangor, “Mae hwn yn gyflawniad gwych ac yn cynnig cyfle anhygoel i Dr Davies yrru'r maes ymchwil hwn yn ei flaen, gan ganolbwyntio ar iechyd merched. Yn ogystal â hynny, bydd y Gymrodoriaeth yn cefnogi datblygiad Dr Davies fel arweinydd ymchwil yn y dyfodol.â€

Mae'r Gymrodoriaeth yn cynnwys mentoriaeth gan weithwyr proffesiynol profiadol yn y maes. Caiff y gefnogaeth hon ei hategu ymhellach gan raglen hyfforddi a ariennir a lleoliadau gwaith sy'n canolbwyntio ar economeg iechyd a gofal.

Eglurodd Helen Weatherly, sy’n Athro Economeg Iechyd a Gofal ym Mhrifysgol Efrog, ac yn un o fentoriaid academaidd Dr Davies, “Mae canser gwddf y groth yn glefyd y gellir ei atal, a gwyddom fod merched sydd wedi profi trais a chamdriniaeth rywiol yn llai tebygol o fynd i apwyntiad sgrinio serfigol yn rheolaidd. Mae angen ymchwil pellach yn y maes hwn i sicrhau bod pob merch yn gallu cael mynediad at apwyntiadau sgrinio serfigol.â€

Dywedodd Rhiannon Tudor Edwards, sy’n Athro mewn Economeg Iechyd ym Mhrifysgol Bangor, “Mae ystyriaethau tegwch yn rhan bwysig o economeg iechyd cyhoeddus ac ataliol. Bydd gwaith Dr Davies yn darparu tystiolaeth i wella ansawdd gofal, i arbed arian i'r GIG, ac i wella iechyd a lles y merched hyn.â€

Dywedodd yr Athro Deborah Fitzsimmons o Brifysgol Abertawe, “Mae gwaith Dr Davies yn gyfle amserol a phwysig i ddeall sut y gallwn ddarparu strategaethau atal iechyd cyhoeddus cynaliadwy i wella bywydau merched o grwpiau nad ydynt yn cael eu gwasanaethu’n ddigonol.â€

Ychwanegodd Sion Williams, sy’n Ddarllenydd mewn Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Bangor, “Bydd y cyflawniad hwn yn galluogi Dr Davies i weithio tuag at fod yn arweinydd ymchwil yn y dyfodol, yn ogystal â galluogi Cymru i barhau i arwain ymchwil o safon fyd-eang mewn economeg iechyd a gofal.â€

Ychwanegodd yr , sef Cyfarwyddwr Cyfadran Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, “Ar ran y Gyfadran, mae’n bleser gennyf longyfarch y grŵp dawnus hwn ar eu dyfarniadau. Rydym wedi ymrwymo i gynnig cefnogaeth gynhwysfawr i ymchwilwyr o bob cefndir ac ar bob cam fel y gallant wneud cynnydd ystyrlon wrth symud ymlaen yn eu gyrfaoedd ymchwil o fewn eu meysydd.â€