Holiadur yw rhestr datblygiad cyfathrebol dwyieithog Cymraeg-Saesneg Prifysgol Bangor (BU WEB-CDI) i ofalwyr proffesiynol a phersonol ei lenwi i ddweud wrthym am iaith a datblygiad cyfathrebol plentyn.Ìý
Saif Prifysgol Bangor dros ddwy sir, Gwynedd ac Ynys Môn, sydd â’r gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru. Mae gennym gysylltiadau gwaith clos gyda meithrinfeydd, ysgolion a chlinigau lleol, sy'n golygu ein bod mewn sefyllfa wych i ddatblygu offer sgrinio ac ymyrryd dwyieithog effeithiol Cymraeg-Saesneg.Ìý
Datblygwyd WEB-CDI Prifysgol Bangor yn benodol i ddiwallu angen lleol am offer asesu iaith dwyieithrwydd addas yn y blynyddoedd cynnar, ac mewn ymateb i nifer o agendâu Llywodraeth Cymru. Ymhlith y rheini mae , sy'n anelu at gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg hyd at filiwn erbyn 2050, sef , a , sy’n anelu at sicrhau bod holl blant Cymru yn cyrraedd cerrig milltir datblygiadol allweddol a’u bod yn barod ar gyfer yr ysgol.Ìý
Mae WEB-CDI Prifysgol Bangor yn hanfodol i gyflawni'r agendâu hynny. Nododd fod y WEB-CDI yn un o ddau offeryn sy'n addas ar hyn o bryd ar gyfer sgrinio datblygiad iaith cynnar plant sy'n siarad Cymraeg-Saesneg (gweler t. 63, 3.12). Nododd yr ail offeryn, , yn defnyddio data WEB-CDI Prifysgol Bangor.Ìý
Caiff WEB-CDI Prifysgol Bangor ei reoli gan Dr. Samuel Jones a'r Athro Debbie Mills. Mae'r holl ddeunyddiau ar gael am ddim ar gais trwy web_cdi@bangor.ac.uk.Ìý Mae adroddiad rhagarweiniol ynghylch WEB-CDI Bangor sy’n ymgorffori data gan 250 o blant . Mae rhagor o wybodaeth am Restrau Datblygiad Cyfathrebol MacArthur-Bates ac addasiadau trwyddedig ar gael .
Cymryd rhan: Rydym wrthi’n recriwtio rhieni ledled Cymru i ychwanegu at ein sampl fawr o ddata normadol. Os oes gennych chi blentyn yn dysgu Cymraeg a/neu Saesneg ac yr hoffech chi gymryd rhan yn ein harolwg ar-lein, cysylltwch â ni: web_cdi@bangor.ac.uk.Ìý
Os ydych chi’n defnyddio CDI Dwyieithog Cymraeg-Saesneg Bangor yn eich ymchwil, nodwch un o’r adnoddau canlynol:Â
Mills, D., Gathercole, V. and Ebanks, N. (2013) ‘The Bangor Welsh Communicative Development Inventory: Words and Gestures’. ¶º±ÆÖ±²¥.Ìý
Jones, S., O’Riordan, C., Roch, N. & Mills, D.L. ([year accessed], [date accessed]). The Bangor Welsh-English Communicative Development Inventory. [URL for the current page]