Siaradwr gwadd o Awstralia yn ymweld â Llawr Masnachu newydd
Rhannwch y dudalen hon
Mi oedd hi'n bleser croesawu Mr Isaac Tonkin o Awstralia i'r Ysgol Fusnes yr wythnos hon. Roedd Mr Tonkin ym Mangor i roi sgwrs ar ddysgu peiriannau ar gyfer gweithredu masnach ac roeddem wrth ein bodd gallu dangos ein llawr masnachu newydd tra ei fod gyda ni.