¶º±ÆÖ±²¥

Fy ngwlad:
Decorative

Newid Ymddygiadol Iach (ILA-4908)

I bwy mae’r gweithdy?

Mae’r cwrs am ddim ac yn agored i bawb. Bydd y gweithdy o ddiddordeb penodol i unigolion a sefydliadau sy’n ymroddedig i wella gofal iechyd a chanlyniadau cymunedol, gan gynnwys staff yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol a’r sector daiÌý
e.e.

  • Gweithwyr Gofal Iechyd Proffesiynol: meddygon, nyrsys, ymarferwyr meddygol, a staff cymorth.
  • Gweithwyr Cymdeithasol: Y sawl sy'n gweithio ym maes gofal cymdeithasol a gwasanaethau cymunedol.
  • Gweithwyr Tai Proffesiynol: Unigolion sy'n ymwneud â chymdeithasau tai a pholisïau.
  • Darpar Arweinwyr: Unigolion sy'n anelu at rolau arweinyddol o fewn eu sectorau priodol.

Beth yw’r budd o fynychu’r digwyddiad?

Bydd y gweithdy hwn yn rhoi cyflwyniad i newid ymddygiad ac yn ystyried beth sy'n dylanwadu ar ymddygiad a pham weithiau nad yw gosod nodau yn arwain at gamau priodol.

Ìý

Hyd y Digwyddiad

2.5 Awr

Gwybodaeth bellachÌý

Bydd y gweithdy yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Saesneg.

Tiwtors

Dr Rosemary Smith

A headshot of Dr Rosemary Smith

Ìý

Mae cefndir Dr Rosemary Smith ym maes addysg, cymell a mentora, ac arweinyddiaeth, i ddechrau yn y maes awyr agored fel hyfforddwr ac addysgwr hyfforddwyr, ac am y 10 mlynedd ddiwethaf, yn addysgu ar raglenni ôl-radd ac israddedig mewn Addysg Uwch. Mae gan Rosemary MEd mewn Ymarfer Proffesiynol mewn Addysg Uwch, ac EdD (Doethur mewn Addysg), ac mae'n Gymrawd yr Academi Addysg Uwch.
Mae diddordebau ymchwil Rosemary mewn datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol, dysgu a chymell, yn ogystal ag ymchwil flaenorol i brofiadau merched yn yr awyr agored.
Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Ìý

Yr Athro John Parkinson

A headshot of Prof John Parkinson

ÌýSeicolegydd ymddygiadol yw John ac mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar y rhyngwyneb rhwng gwybyddiaeth ac emosiwn, yn enwedig o ran hybu iechyd ac atal salwch. Mae ganddo ddiddordeb mewn sut mae signalau cymhellol yn cael eu cynhyrchu, sut maent yn rhyngweithio â phrosesau gwybyddol parhaus a sut mae hyn yn effeithio ar ymddygiad. Mae integreiddio theori proses ddeuol ag ymagweddau cyfoes at ymddygiad (megis COM-B) o ddiddordeb arbennig iddo. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys y canlynol: dylanwad cyflyrau cymhellol ar brosesau gwybyddol megis sylw, cof a gwneud penderfyniadau; effaith cyflyrau emosiynol cadarnhaol ar wybyddiaeth; rôl a natur ymddygiadau a achosir gan ysgogiad (gan gynnwys cyffroad cymhellol a chwant mewn ymddygiadau caethiwus). John yw Cyfarwyddwr ac mae’n cydweithio ag Uned Gwyddorau Ymddygiadol Iechyd Cyhoeddus Cymru.Ìý

Mae John yn aelod o'r grŵp ymchwil Seicoleg Ymddygiadol, Seicoleg Iechyd a Seicoleg Glinigol a’r grŵp ymchwil Niwrowyddoniaeth Gymdeithasol.