Mae ymchwil newydd yn datgelu y gallai’r newid yn yr hinsawdd amharu ar y berthynas fuddiol sydd rhwng dwy rywogaeth arfordirol bwysig: morwellt ac wystrys. Mae'r canfyddiadau, a gyhoeddwyd yn y , yn dangos sut mae'r rhywogaethau’n cydweithio i dyfu a ffynnu o dan amodau normal ond mi allant ei chael hi'n anodd wrth i dymheredd y cefnfor godi ac i asidedd gynyddu.
Archwiliodd yr astudiaeth, a gynhaliwyd gan dîm o wyddonwyr morol rhyngwladol, y rhyngweithio rhwng morwellt ac wystrys mewn arbrawf pwrpasol. Trwy efelychu amgylchiadau cynhesach a mwy asidig y cefnforoedd, gwelsant yr effeithiau ar y ddwy rywogaeth. O dan amodau normal, canfu’r astudiaeth fod wystrys yn hybu twf y morwellt yn ddirfawr, gan gynyddu twf y dail a maint y planhigion oddeutu 30%, a bod y morwellt yn helpu’r wystrys trwy wella tyfiant cregyn. Mewn geiriau eraill, mae wystrys yn defnyddio mwy o egni i dyfu eu cregyn pan fo morwellt o’u cwmpas.
Fodd bynnag, oherwydd bod y dŵr yn gynhesach ac yn fwy asidig, mae’r berthynas rhwng y morwellt a'r wystrys yn anodd i’w rhagweld, sy’n dangos y gallai amodau'r cefnforoedd yn y dyfodol amharu ar y berthynas lesol sydd rhyngddynt. Er hynny, mae mantais amlwg i hinsawdd y cefnforoedd yn y dyfodol pan fydd y môr yn gynhesach ac yn fwy asidig: mae’r morwellt yn gwella cyflwr cyrff yr wystrys 36%, gan wrthdroi effaith negyddol y cynhesu a’r asideiddio ar gyflwr cyrff yr wystrys.
Mae Dr Katie DuBois yn ddarlithydd ecoleg y môr yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor, ac yn gyd-awdur ar y papur yn seiliedig ar ymchwil a wnaeth yn ystod ei chyfnod yng Ngholeg Bowdoin, UDA. Mae hi bellach yn parhau â’i gyrfa academaidd ym Mangor, ac mae ar fin gwneud ymchwil pellach yn yr un maes.
Esboniodd Dr DuBois, “Mae’r astudiaeth yn amlygu pwysigrwydd rhyngweithiadau’r rhywogaethau o ran deall ymatebion ecolegol i’r newid yn yr hinsawdd. Nid effeithiau unigol y cynhesu a’r asideiddio ar y morwellt a’r wystrys yn unig sy'n bwysig, mae esblygiad y berthynas yn bwysig hefyd. Mae'r wybodaeth honno’n hanfodol i gadwraeth a rheolaeth ecosystemau’r arfordirol. O ddeall y perthnasoedd cymhleth hynny, gallwn gadw a diogelu’r ecosystemau arfordirol yn well.
“Mae'r canfyddiadau’n berthnasol iawn i brojectau adfer a dyframaethu. Mae'n hanfodol ystyried sut mae newidiadau amgylcheddol yn effeithio ar ryngweithiadau’r rhywogaethau. Bydd y ddealltwriaeth hon yn helpu datblygu strategaethau i gefnogi gwytnwch a chynhyrchiant y rhywogaethau allweddol yma.â€