Ynni adnewyddadwy i Brifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi bod 100% o’r trydan a ddefnyddir gan y Brifysgol bellach yn cael ei gyflenwi o ffynonellau adnewyddadwy gwarantedig.
Ym mis Mehefin 2019, cyhoeddodd Prifysgol Bangor yn ffurfiol fod yna ‘Argyfwng Hinsawdd’ yn adlewyrchu’r ymrwymiad hirdymor i fod yn Brifysgol Gynaliadwy. Mae’r newid i ynni adnewyddadwy yn rhan o’r ymrwymiad hwnnw.
Bu’r Brifysgol yn gweithio'n galed ers dros 15 mlynedd i leihau faint o ynni a ddefnyddir, gyda gostyngiad o bron i 16% o drydan fesul m2 o arwynebedd ers 2005. Yn ystod blwyddyn academaidd 2018/19, defnyddiodd Prifysgol Bangor 7% yn llai o drydan o gymharu â'r flwyddyn flaenorol, gan ddefnyddio tua 16.5 GWh o drydan.
Bydd newid i ddefnyddio trydan o ffynonellau cwbl adnewyddadwy yn arwain at leihau ôl troed carbon y Brifysgol hyd at 4500 tunnell CO2e y flwyddyn.
Mae'r newid hwn yn dilyn buddsoddiad dros y 18 mis diwethaf o dros £2.5 miliwn ar sicrhau effeithlonrwydd ynni ar draws y Brifysgol. Mae’r buddsoddiadau yn cynnwys gosod paneli solar newydd ar bedwar adeilad, ac mae gwaith ar y gweill i osod 150 panel solar ychwanegol ar do Prif Lyfrgell y Celfyddydau cyn diwedd y flwyddyn; gosod rheolyddion gwresogi newydd mewn 26 bloc o'r Neuaddau Preswyl ar safle Ffriddoedd; uwchraddio goleuadau yn helaeth; inswleiddio pibellau a gwelliannau i osodiadau a rheolyddion boeleri.
Rhagwelir y bydd y Brifysgol yn defnyddio oddeutu 4 GWh y flwyddyn yn llai o ynni yn sgil y rhaglen uwchraddio gan arbed dros 1100 tunnell o allyriadau carbon (CO2e).
Meddai’r Athro Oliver Turnbull Dirprwy Is- ganghellor y Brifysgol a Chadeirydd Grŵp Strategaeth Cynaliadwyedd y Brifysgol:
“Mae hyn yn newyddion gwych. Mae cynaliadwyedd wrth wraidd ein holl weithgareddau ym Mangor ac mae’r newid hwn yn arwydd pellach o’n hymrwymiad i fod yn Brifysgol wir gynaliadwy. Mae rhoi sylw i newid hinsawdd yn fater pwysig iawn, ac mae’n gyfrifoldeb arnom i gyd i weithredu i leihau’r niwed amgylcheddol all gael ei achosi gan ein gweithgareddau.
Y cyhoeddiad hwn yw cam diweddaraf Prifysgol Bangor mewn ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd a gyhoeddwyd gennym yn gynharach eleni. Yn wir, byddwn yn parhau i weithio ar fesurau i leihau ein heffaith amgylcheddol yn y dyfodol.â€
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019