Cyhoeddi prosiectau sy'n annog pobl i fod yn greadigol er mwyn hybuâr Gymraeg
Mae Eluned Morgan, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, wedi cyhoeddi bod £425,000 wedi'i ddyfarnu i 26 o brosiectau arloesol sy'n ceisio hybu'r Gymraeg yn y gymuned a thechnoleg Gymraeg.
Mae Grant Cymraeg 2050 yn elfen allweddol o Strategaeth y Gymraeg, Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr. Bydd yn darparu grantiau bach o hyd at £20,000 yr un i ariannu prosiectau tymor byr arloesol sy'n ceisio cynyddu'r defnydd bob dydd pobl o'r iaith a hyrwyddo technoleg sy'n cefnogi'r defnydd o'r Gymraeg.
Roedd Arwel Tomos Williams, myfyriwr PhD yn Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Bangor, yn ymgeisydd llwyddiannus, gan ennill £20,000 gydaâi oruchwylwyr i ymchwilio âDefnyddioâr Profiad Eusle i Rymuso Staff i Ddefnyddioâr Gymraeg gan Newid y Cyd-destun Ieithyddol Arferol yn y Gweithle Dwyieithogâ. Dull syân deillio gan dîm Soziolinguistika Klusterra o Wlad y Basg ywâr dull Eusle sydd wedi cael dylanwad cryf ar ddefnydd iaith, gan gynydduâr defnydd gweithredol o Fasgeg yng nghyd-destun y gweithle.
O dan oruchwyliaeth Yr Athro Carl Hughes, Dr Lowri Hughes a Dr Emily Tyler, bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar waith peilot gan Arwel fel rhan oâi ymchwil PhD, ac maeân cynnig cyfle ardderchog i fynd ââr gwaith peilot yn ei flaen, ynghyd ââr mesuriadau sydd wedi eu datblygu er mwyn cyfrannu at y sail tystiolaeth ar sut i gynyddu, annog a mesur y cynnydd mewn defnydd oâr Gymraeg yn y gweithle mewn ffordd wrthrychol.
Prif fwriad Eusle yw newid y âcyd-destun ieithyddol arferolâ o fewn gweithleoedd dwyieithog i gefnogi defnydd oâr Gymraeg. Maeâr cyd-destun ieithyddol arferol yn cynrychioli normau ymddygiadol sydd eisoes wedi cael eu sefydlu mewn sefyllfaoedd penodol, yn ogystal â rhwng unigolion penodol. Fel arfer, maeâr cyd-destun ieithyddol arferol yn gadarn, yn anodd newid ac yn âanhyblygâ.
Mae gwaith cynt Arwel yn dangos fod ambell i siaradwr Cymraeg rhugl yn siarad Saesneg ââi gilydd oherwydd y cyd-destun ieithyddol arferol (h.y., mae Saesneg wedi cael ei osod fel âarferiad ieithyddolâ yn eu perthynas gwaith nhw, neu o fewn cyd-destun penodol). Gan ddefnyddio seicoleg newid ymddygiad, bydd y profiad Eusle yn mynd ati i sefydlu gweithleoedd dwyieithog fel âcyd-destun ieithyddol hyblygâ, yn ogystal ag adeiladu sgiliau a magu hyder o fewn timau staff i ddefnyddioâr Gymraeg.
Meddai'r Gweinidog: "Rydyn ni am weld y Gymraeg yn dod yn rhan arferol o fywyd bob dydd fel bod siaradwyr o bob lefel yn teimloân hyderus wrth ddefnyddioâr iaith mewn sefyllfaoedd ffurfiol ac anffurfiol. Bydd y prosiectau a gyhoeddwyd heddiw yn ei gwneud hi'n haws i bobl ddefnyddio'r Gymraeg, boed wyneb yn wyneb yn y gymuned ac yn y gweithle neu drwy lwyfannau digidol.
Gwyddom fod cyflawni miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn her sylweddol, ac rwy'n falch iawn bod cymaint o sefydliadau a phobl eisiau ymuno â ni wrth i ni fwrw ymlaen â'r dasg hon."
Gweler hefyd project arall o dan yr un ffrwd ariannu.
Dyddiad cyhoeddi: 15 Tachwedd 2017