Grant Ymchwil Gwyddorau Eigion i astudio crychdonnau ar fflatiau llaid a thraethau
Mae banciau tywod a phonciau llaid yn ffurfio rhwystrau pwysig o amgylch ein harfordir. Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol Bangor yn arwain project ymchwil o bwys i asesu sut caiff y deunyddiau mĂąn hyn eu symud gan gerrynt dĆ”r yn y parth arfordirol, a sut gallaiâr symudiad hwn newid o ganlyniad i newid mewn hinsawdd.
Cyllidir y project ymchwil ar y cyd hwn, oâr enw COHBED, gan y Cyngor Ymchwil iâr Amgylchedd Naturiol (NERC). Bydd yn ymchwilio i sut y mae presenoldeb mwd âgludiogâ cydlynol mewn gwaddod tywodlyd yn dylanwadu ar erydu, cludo a dyddodiâr gwaddod cymysg hwn mewn moroedd ac afonydd.
âMaeâr Deyrnas Unedig yn genedl arfordirol gydaâr rhan fwyaf o bobl yn byw o fewn ychydig filltiroedd iâr mĂŽr. Ceir hyd i fwd a thywod mewn llefydd lle mae egniâr tonnau, llanw a llif afonydd yn isel, a gellir dyddodiâr gwaddodion hyn a gludir gan ddĆ”r ar welyâr mĂŽr. Mae cynefinoedd mwdlyd a thywodlyd yn bwysig iawn ar gyfer ecoleg ac economi Prydain. Maent yn darparu bwyd ar gyfer llawer o rywogaethau o adar a physgod, ond hefyd yn gwarchod yr arfordir rhag grymoedd erydol y mĂŽr. Maent hefyd yn gweithredu fel ffilter, lle caiff llygryddion oâr afonydd eu dal aâu diraddio yn y pen draw. Oherwydd pwysigrwydd y systemau hyn, mae eu hymddygiad naturiol aâu sefydlogrwydd yn bryder cynyddol fel y mae lefelauâr mĂŽr yn codi gyda newid mewn hinsawddâ, eglura Dr Jaco H. Baas, Darlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion a Phrif Ymchwilydd y project.
Ychwanega Dr Baas: âY prif reswm dros sefydluâr project hwn yw nad oes gennym lawer o wybodaeth wyddonol iân helpu i ragfynegi sut bydd traethau a fflatiau llaid naturiol yn ymateb i rymoedd newidiol y llanw, y gwynt aâr tonnau. Pan fydd dĆ”r yn llifo dros welyâr mĂŽr, mae egniâr llif yn siapioâr gwaddod yn arweddion tonnog, fel crychdonnau. Maeâr hyn a elwir yn âwely-ffurfiauâ (bedforms) yn helpu i reoli erydiad a chludiant tywod, mwd, maetholion a llygryddion bob diwrnod, ond hefyd mewn cyfnodau o stormydd, llawer iawn o law a llifogydd arfordirol.â
âMae gwybodaeth a fydd yn ein galluogi i ragfynegi maint a symudiad gwely-ffurfiau yn hanfodol ar gyfer llawer o ddisgyblaethau amgylcheddol, fel rheoliâr amgylchedd, peirianneg hydrolig, bioleg cynefin benthig, modelu cyfrifiadurol o gludo gronynnau a daeareg waddodol. Fodd bynnag, ceir diffyg gwybodaeth lwyr bron iawn am wely-ffurfiau syân cynnwys cymysgedd o dywod a mwd. Rydym yn gwybod bod gwaddodion tywodlyd yn âanghydlynolâ, oherwydd nid ywâr gronynnau tywod yn glynu Ăąâi gilydd, tra bo mwd wediâi greu o ronynnau llai syân glynu Ăąâi gilydd, ac felly feâi gelwir yn waddodion âcydlynolâ. Maeâr gwahaniaeth hwn yn un o dargedau astudiaeth y project COHBED.â
Maeâr project COHBED yn gydweithrediad ag ymchwilwyr oâr National Oceanography Centre yn Lerpwl (Yr Athro Peter Thorne), a Phrifysgolion Leeds (Dr Daniel Parsons), Plymouth (Dr Sarah Bass) a St Andrews (Yr Athro David Paterson), gyda phob un yn cyfrannu eu harbenigedd penodol mewn ffiseg, mathemateg, gwaddodeg a bioleg at y project. Mae cyfanswm y gyllideb ychydig o dan ÂŁ1 miliwn; bydd hyn yn helpu i gyflogi pump o Ymchwilwyr Ăl-ddoethurol yn ystod gwahanol gamauâr project tair blynedd, yn ogystal ag un myfyriwr PhD.
Daeth y project COHBED yn gydradd ail yng nghynllun Grantiau Safonol diweddaraf y Cyngor Ymchwil iâr Amgylchedd Naturiol. Dawâr grant, ym maes gwaddodeg, yn dilyn y âhat trickâ diweddar o lwyddiannau mewn Eigioneg Ffisegol yn yr Ysgol Gwyddorau Eigion.
Gwneir rhan fawr oâr ymchwiliadau hyn drwy efelychiadau llif yn Labordy Hydrodynameg yr Ysgol Gwyddorau Eigion a gwaith ar long yn Aber Afon Dyfrdwy.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Hydref 2011