Cymrodoriaethau Dysgu
Amcanion Cynllun Cymrodoriaeth Ddysgu Bangor
- Cydnabod pwysigrwydd dysgu ardderchog, gwella profiad dysgu myfyrwyr, a’r gefnogaeth a roddir i fyfyrwyr.
- Cydnabod unigolion sydd wedi cael dylanwad helaeth ar ddysgu ym Mangor.
- Dathlu ymrwymiad y brifysgol i ragoriaeth dysgu a chefnogaeth i fyfyrwyr.
Nifer i’w dyfarnu
Nid oes cyfyngiad ar nifer y cymrodoriaethau y gellir eu dyfarnu bob blwyddyn. Serch hynny gall y pwyllgor dewis yn ôl ei doethineb gyfyngu ar nifer y cymrodoriaethau er mwyn sicrhau bod cyfraniad unigolion yn cael ei gydnabod yn briodol ac yn unigryw pan ddyfernir cymrodoriaethau.
Y Wobr
Rhoddir Cymrodoriaethau Dysgu i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol ar sail tystiolaeth i addysgu, dysgu, asesu a/neu feysydd cysylltiedig o gefnogi addysg myfyrwyr ym Mangor. Mae’r wobr yn seiliedig ar ddyfarniad y Panel.
Enwebiad
Bydd Penaethiaid Ysgol yn ysgrifennu enwebiad 1000-gair a fydd yn amlinellu rhagoriaeth yr ymgeisydd yn eu hymarfer addysgu unigol, gan amlygu'r effaith a gawsant ar lefel ysgol (a thu hwnt), a'u hymgysylltiad â gweithgareddau datblygiad proffesiynol addysgu ac ysgolheictod. Yn ychwanegol at yr enwebiad ysgrifenedig, bydd y cyflwyniad yn cynnwys atodiad a fydd yn darparu tystiolaeth o gyfraniad yr enwebai, a gall hyn gynnwys; gwerthusiadau modiwlau, enwebiadau Gwobr Addysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr, sylwadau arholwyr allanol, cyhoeddiadau pedagogaidd, tystiolaeth o ddatblygiadau modiwlau / rhaglenni a weithredwyd yn llwyddiannus gan yr enwebai, cymhwyster Cymrodoriaeth AAU lwyddiannus, portffolio PGCertHE llwyddiannus, dyfarniad NTFS, ac yn y blaen.
Bydd Pennaeth yr Ysgol yn gyfrifol am gyflwyno'r enwebiad ysgrifenedig a'r atodiad iÌýHeledd SelwynÌý(Gweinyddu Myfyrwyr) yn electronig erbynÌý14eg Mehefin 2021. Nid oes ffurflenni templed na dogfennau enghreifftiol.
Dewis
Ystyrir enwebiadau gan Banel Cymrodoriaethau Dysgu, sy’n adrodd i’r Grwp Strategaeth Addysgu a Dysgu ac i’r Senedd. Mae’r Panel dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Is-ganghellor Nicky Callow, ac yn cynnwys y Dirprwy Is-ganghellor, aelod o Addysgu a Dysgu Datblygiad Proffesiynol Parhaus (CELT), dau Gymrawd Dysgu ac un cynrychiolydd o Undeb y Myfyrwyr.
Bydd y Panel yn ystyried yr enwebiadau a gall, yn ôl ei doethineb, gyfweld yr ymgeisydd.
Cyflwyno gwobrau
Cyhoeddir y Gymrodoriaeth yn y Bwletin Staff, ac ar gyfryngau cymdeithasol y Brifysgol, yn ystod haf 2021. Bydd y sawl sy’n derbyn y wobr yn cael y teitl ffurfiolÌýCymrawd Dysgu Prifysgol Bangor, a gwahoddiad i ymuno â’r Academi Cymrodyr Dysgu.