Diweddarwch Eich Manylion
Mae’r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Alumni yma i’ch helpu i gadw mewn cysylltiad â'ch prifysgol a chyda cyn-fyfyrwyr eraill. Rydym mewn cysylltiad â dros 120,000 o gyn-fyfyrwyr. Byddwn yn anfon ein e-gylchlythyr chwarterol, atynt yn ogystal â chylchlythyrau penodol gan Ysgolion, gwahoddiadau i aduniadau a digwyddiadau, ceisiadau am sgyrsiau am yrfaoedd am leoliadau gwaith, a gwybodaeth am Gronfa Bangor. Mae Cronfa Bangor yn ffordd i gyn-fyfyrwyr roi rhywbeth yn ôl i fyfyrwyr heddiw ac, yn y dyfodol, efallai y gofynnir i chi ei chefnogi. Er mwyn sicrhau eich bod yn derbyn yr holl negeseuon hyn, ticiwch y blychau isod.