Cynllun Iaith Prifysgol Bangor yn gosod y safon
Ddydd Mawrth 7 Mai, bydd Prifysgol Bangor yn tanlinellu ei hymrwymiad i’r Gymraeg wrth i’r Is-ganghellor, Yr Athro John Hughes, lansio ei Chynllun Iaith diwygiedig.
Mae’r Cynllun Iaith diwygiedig wedi’i lunio yng nghyd-destun y drafodaeth ynglŷn â’r Safonau Iaith a fydd yn dod i rym ymhen dwy flynedd, ac yn amcanu at roi’r brifysgol mewn sefyllfa gref i ymateb yn gadarnhaol i’r safonau hynny. Yn ei chynlluniau niferus i ddarparu ei gwasanaethau trwy gyfrwng y Gymraeg ac i gynyddu defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, mae’r brifysgol yn awyddus i ddiogelu ei safle fel y sefydliad addysg uwch arweiniol o ran y Gymraeg.
Wrth edrych ymlaen at y lansiad, dywedodd Mr. Wyn Thomas, Dirprwy Is-ganghellor (Cyfrwng Cymraeg a’r Gymuned): “Y mae dathlu lansiad y Cynllun Iaith newydd yma ym Mhrifysgol Bangor yn ddigwyddiad o bwys neilltuol ac yn garreg filltir arwyddocaol i ni fel sefydliad. Mae'n arwydd o'n hymrwymiad ni i gynnal y safonau uchaf posib, i barchu'r iaith a'i defnyddio i'r eithaf ym mhob agwedd ar ein gwaith a'n cenhadaeth. Fel prif ddarparwr addysg-uwch cyfrwng Cymraeg, gyda’r nifer mwyaf o fyfyrwyr gradd ac ôl-radd sy'n astudio drwy gyfrwng yr iaith, rydym yn awyddus i arwain y maes a chefnogi a chynghori eraill i gyrraedd yr un safonau.â€
Dyddiad cyhoeddi: 3 Mai 2013