Datblygu eich hyder yn defnyddio’r Gymraeg
Mae Canolfan Bedwyr yma i’ch cefnogi chi i ddatblygu eich sgiliau iaith Gymraeg a’ch hyder yn ystod eich cyfnod yn y Brifysgol. Â
Ar gyfer myfyrwyr y flwyddyn gyntaf, rydyn ni’n cynnig y modiwl yn Semestr 1: CCB-1101 Sgiliau Defnyddio’r Gymraeg 1 (20 credyd). Nod y modiwl yw codi hyder llafar ac ysgrifenedig myfyrwyr yn y Gymraeg. Bydd yn eich helpu chi i wneud aseiniadau yn y Gymraeg yn eich prif bynciau ac yn eich paratoi at fyd gwaith dwyieithog. Mae’r modiwl yn addas hefyd ar gyfer rhai sy’n astudio’r Gymraeg fel ail iaith.
Cynigir hefyd sesiynau paratoi gan diwtor ar gyfer myfyrwyr sy’n cofrestru ar gyfer Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ceir mwy o wybodaeth am eu gwasanaethau i gefnogi myfyrwyr ar y dudalen Cymorth CymraegÌý²Ô±ð³Ü cysylltwch â ni.
Y Ganolfan Sgiliau Astudio
²Ñ²¹±ð’rÌýGanolfan Sgiliau Astudio yn cynnig darpariaeth a chefnogaeth ddwyieithog i’ch cynorthwyo gyda’ch astudiaethau. Trefnwch apwyntiad ysgrifennu ac astudio unigol neu apwyntiad mathemateg ac ystadegau gydag un o’n cynghorwyr astudio neu fentor ysgrifennu, a phorwch drwy ein hadnoddau astudio dwyieithog.