¶º±ÆÖ±²¥

Fy ngwlad:
Person yn gwenu i mewn i'r camera gyda golygfa trefol tu ôl

Cael Gwobrwyo

Gwobr Addysg a Phrofiad Myfyrwyr

Mae’r Wobr Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, a elwid gynt yn Gymrodoriaeth Addysgu Prifysgol Bangor, yn gwobrwyo staff sydd wedi cael effaith ragorol ar weithgareddau cymorth dysgu ac addysgu sydd o fudd i brofiad myfyrwyr Bangor. Daw'r wobr fawreddog hon gyda gwobr o £2,000 a delir i gyfrif gorbenion personol yr enillydd. Dyfernir uchafswm o 10 gwobr bob blwyddyn. Mae'r enwebiadau'n agor yn y gwanwyn, gyda gwahoddiad i’r rhai llwyddiannus dderbyn eu gwobr yn ystod yr wythnos raddio yn yr haf.Ìý

  • Codi’ch proffil academaidd personol Ìý
  • Meithrin cyfleoedd dilyniant gyrfa
  • Dyfarniad o £2,000

Dim ond un aelod o’r staff y cewch ei enwebu mewn Ysgol/Adran Gwasanaeth, a rhaid i’r enwebiadau gynnwys y canlynol:

  • Llythyr enwebu gan Bennaeth yr Ysgol neu'r Adran Gwasanaeth yn rhoi adroddiad cefnogol o ragoriaeth yr enwebai yn ei ymarfer o ran y pedwar maen prawf
  • Dogfen yn cymharu gweithgareddau addysgu a dysgu'r enwebai â’r pedwar maen prawf

Bydd y panel dyfarnu, o gan gadeiryddiaeth yr Athro Nicky Callow - y Dirprwy Is-ganghellor Addysg a Phrofiad Myfyrwyr, yn asesu pob enwebiad yn unol â’r pedwar maen prawf.

  • Rhagoriaeth mewn gwella a/neu arloesi
  • Rhagoriaeth effaith
  • Rhagoriaeth ysgolheictod
  • Rhagoriaeth arweinyddiaeth
    Ìý

Cyhoeddir yr alwad flynyddol am enwebiadau yn y Bwletin Staff.

Gwobr ar y Cyd am Ragoriaeth Mewn Addysgu

Mae'r Wobr ar y Cyd am Ragoriaeth mewn Addysgu yn gynllun gwobr Advance HE sy'n cydnabod ac yn dathlu timau academaidd llwyddiannus sy'n cael effaith ragorol amlwg ar addysgu a dysgu trwy gydweithio. Dim ond un tîm y gellir ei enwebu bob blwyddyn. A yw eich tîm ym Mhrifysgol Bangor wedi sicrhau newid cadarnhaol sylweddol mewn arfer ar gyfer cydweithwyr neu fyfyrwyr ar lefel sefydliadol neu ddisgyblaethol? Os felly, hoffai CELT eich enwebu am Wobr ar y Cyd am Ragoriaeth mewn Addysgu.

Nid oes gennym dîm sydd wedi ennill y wobr eto ac rydym wastad yn chwilio am dîm ardderchog addas i'w enwebu ar gyfer y wobr fawreddog hon.Ìý

  • Codi proffil cenedlaethol eich tîmÌý
  • Agor drysau i gyfleoedd cydweithredol neu yrfaol newydd
  • Meithrin perthynas â gweithwyr proffesiynol eraill ar draws gwahanol ddisgyblaethau, sefydliadau a chenhedloedd sy'n rhannu eich angerdd am gydweithio dros Ìýragoriaeth addysguÌý
  • Hyrwyddo Prifysgol Bangor fel sefydliad sydd wedi ymrwymo i ddangos rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu drwy gydweithioÌý

I ymgeisio, rhaid i dimau gyflwyno cais 4,500 o eiriau yn nodi sut maent yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, gan ddangos tystiolaeth o ragoriaeth yn y canlynol:

  • Sut mae’r tîm yn cydweithio, sy'n gymesur â'u cyd-destun a'r cyfleoedd a gynigir.
  • Cael effaith amlwg ar addysgu a dysgu, gan gynnwys y tu hwnt i'w maes academaidd neu broffesiynol uniongyrchol

Mae angen cynnwys y gwaith papur atodol a datganiad o gefnogaeth wedi'i lofnodi. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am y cynllun

Os hoffech gael eich ystyried fel enwebai Bangor ar gyfer Gwobr ar y Cyd am Ragoriaeth mewn Addysgu, cysylltwch â’r Athro Caroline Bowman, am sgwrs anffurfiol. Cyhoeddir yr alwad flynyddol am enwebiadau yn y Bwletin Staff.