Gwella Eich Addysgu
Mae cael cymheiriaid yn arsylwi ar eich arferion addysgu neu gymorth dysgu yn eich galluogi i ddatblygu trwy hunanfyfyrio, rhannu gwybodaeth gyda chydweithwyr a nodi meysydd sydd angen cymorth.Ìý
Crëwyd y cynllun i alluogi cyfranogwyr i fyfyrio ar arferion Addysgu a Dysgu gan gyfeirio at a .
Mae Cynllun Cefnogi Cydweithwyr Bangor yn agored i bob aelod o staff sy’n addysgu a/neu’n cefnogi dysgu. Disgwylir y bydd yr holl staff academaidd sydd â rôl addysgu yn cymryd rhan yn y cynllun unwaith bob blwyddyn academaidd fel rhan o ddeuawd neu driawd arsylwi cydweithwyr. Mae hyn yn cynnwys darlithwyr rhan amser ac ymarferwyr proffesiynol sy’n cyfrannu’n rheolaidd at addysgu. Bydd myfyrwyr ôl-raddedig sy’n addysgu yn cael eu harsylwi fel rhan o’u gofyniad i ymgymryd â hyfforddiant Ysgol-benodol neu’r Dystysgrif Ôl-raddedig Addysgu mewn Addysg Uwch (PGCertTHE). Ni fydd yn ofynnol i siaradwyr allanol gymryd rhan yn y cynllun llawn, ond os oes rhai sydd yn cyfrannu’n gylchol fesul blwyddyn academaidd, dylai arweinwyr modiwl o leiaf fynychu sesiwn a rhoi adborth llafar.
I gymryd rhan yn y broses Arsylwi Cymheiriaid a lawrlwytho'r ffurflenni perthnasol, ewch i dudalen FyMangor.
Mae Advance HE yn cynnwys arbenigwyr Addysg Uwch sy'n cydweithio i godi safonau yn y sector a gwneud addysgu a dysgu yn fwy cynhwysol i bawb.Ìý
Mae gan Advance HE dri nod strategol:Ìý
- cynyddu hyder ac ymddiriedaeth mewn Addysg Uwch
- mynd i'r afael ag anghydraddoldebau systemig yn y sector i ddiwallu anghenion esblygol
- cefnogi aelodau trwy ei waith ar addysgu a dysgu, llywodraethu, datblygu arweinyddiaeth a chynhwysiant
Gall Advance HE eich helpu drwy gefnogi eich ymarfer addysgu a chynnig arweiniad ar lywodraethu, datblygu arweinyddiaeth ac amrywiaeth. Gellir dod o hyd i fanylion cyrsiau datblygu a hyfforddiant sydd ar y gweill ar wefan Advance HE, yn ogystal ag adnoddau addysgiadol a manylion gwobrau.Ìý
Bellach mae modd cofrestru i fynychu Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Prifysgol Bangor eleni, a gynhelir ddydd Iau 19 Medi yn Pontio. Yn y digwyddiad bydd prif anerchiad gan Jim Dickinson o WonkHE; arddangosiad rhithrealiti ymarferol; gweithdai; cyflwyniadau cyflym byr; ac e-gyflwyniadau cyfochrog ar Asesu ac Adborth, Digidol a Deallusrwydd Artiffisial, a Chyfleoedd mewn Dysgu drwy Brofiad.
- Rhaglen lawn y diwrnod
- cyn 5pm ddydd Iau 12 Medi 2024, i'n helpu at ddibenion arlwyo. Bydd modd cofrestru hefyd ar y diwrnod.
Mae Cynhadledd CELT yn ddigwyddiad hynod ddifyr yn y calendr academaidd ar gyfer holl staff Prifysgol Bangor, yn staffÌý academaidd a staff o’r gwasanaethau proffesiynol, ac rydym hefyd yn estyn croeso cynnes i’n cydweithwyr o Grŵp Llandrillo Menai a Choleg Cambria.Ìý
Galeri 2024 Cynhadledd CELT
Cwrdd Â’r Tîm
Newyddion Diweddaraf
Gweld MwyAr gyfer ymholiadau cyffredinol, cysylltwch celt@bangor.ac.ukÌý