Trosolwg o'r prosiect
Trwy weithio gyda'n partner, Codi'r To, a'n tîm creadigol, mae'r prosiect peilot hwn yn ymgysylltu â'r gymuned leol wrth archwilio beth mae’n ei olygu i fod yn Gymry heddiw, yn enwedig ar ôl Brexit ac ar ôl Covid. Mae'n gwneud hynny drwy gyfrwng yr opera. Ers Chwefror mae criw o 17 o blant o Ysgol Glan Cegin ym Mangor, wedi bod yn gweithio gyda Codi'r To a'n tîm creadigol, gan ysgrifennu ac ymarfer opera fer ddwyieithog ar y thema ‘Cymru heddiw'. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar y plant sy'n defnyddio eu hidiomau a’u hiaith bob dydd i fynegi eu barn am beth mae'n ei olygu i fod yn Gymry ac i fyw yng Nghymru heddiw. Bydd yr opera fer, gyda cherddoriaeth gan y cyfansoddwr adnabyddus Gareth Glyn, yn cael ei pherfformio fel rhan o gyngerdd cyhoeddus a gynhelir yn Pontio ar 18 Mai 2023, a berfformir gan y plant a Codi'r To.
Yn y DU mae opera'n aml yn cael ei ystyried i fod yn symbol o ddiwylliant elitaidd, rhywbeth sy'n estron ac yn anhygyrch. Nid yw hyn yn wir. Mae opera yn dod â chelfyddydau amrywiol at ei gilydd i ffurfio cyfanwaith ysbrydoledig. ÌýGellir ei ddefnyddio fel trosiad ar gyfer addysg, rhywbeth a allai gael ei ystyried i fod 'ddim i mi', yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig yn economaidd. Fodd bynnag, unwaith y bydd rhwystrau mynediad a dealltwriaeth yn cael eu dileu, mae'n ymddangos yn bosibl ac yn berthnasol. Yn y bôn, mae opera yn stori ddramatig wedi'i gosod i gerddoriaeth: mae confensiynau modern o opera yn golygu y gall y genre gwmpasu ystod eang o ddehongliadau, gan gynnwys opera roc, opera rap ac opera hip. Drwy wneud y cysyniad o opera yn hygyrch a thrwy ymgysylltu â'r myfyrwyr drwy gymryd rhan a chreu, mae'n chwalu rhwystrau economaidd-gymdeithasol ac yn agor posibiliadau a chyfleoedd newydd. Gellir defnyddio opera fel modd effeithiol o drafod pynciau diwylliannol pwysig megis hunaniaeth. Mae gweithio ar y cyd trwy eiriau a cherddoriaeth hefyd yn caniatáu i'r plant archwilio problemau’n ymwneud gydag ynysu a gor-ddefnydd digidol, sydd wedi dod yn fwyfwy cyffredin yn ystod y pandemig.
Yn ogystal â chanfyddiadau ymchwil, bydd y prosiect yn creu arteffact diwylliannol sy'n adlewyrchu barn a safbwyntiau'r rhai y gellid dadlau sydd wedi'u heffeithio fwyaf gan Brexit a Covid, a'r rhai nad oes ganddynt lais: plant.