Ers ei sefydlu ym 1884, mae gan Brifysgol Bangor hanes balch o ddyngarwch. Nodwedd bwysig o’i sefydlu oedd y cyfraniadau gwirfoddol a wnaed gan ffermwyr a chwarelwyr lleol o’u cyflogau prin. Mae’r traddodiad hwn o roi yn parhau hyd heddiw ac rydym yn gofyn i chi ymuno ag alumni eraill i roi rhodd i Gronfa Bangor a chefnogi myfyrwyr heddiw.
Prif ddiben Cronfa Bangor yw galluogi'r brifysgol i gyfoethogi a rhoi elfennau ychwanegol i’r profiad a gaiff ei myfyrwyr. Gallwch ddewis bennu eich rhodd o fewn tri dosbarth bras:
- Cronfa’r Is-ganghellor – Mae'r cronfeydd hyn yn cefnogi blaenoriaethau pwysicaf y brifysgol a bennwyd gan gynllun strategol y brifysgol.
- Cymorth i Fyfyrwyr – Mae’r gronfa hon yn darparu ysgoloriaethau, bwrsariaethau, teithiau maes, interniaethau, grantiau teithio a chymorth uniongyrchol arall i fyfyrwyr. Mae hefyd yn cefnogi mentrau sy’n gwella profiad myfyrwyr ac yn cyfrannu’n sylweddol at fywyd y campws.
- Yr Iaith Gymraeg a Diwylliant Cymru – Mae’r gronfa hon yn adlewyrchu ein cenhadaeth i gefnogi amrywiaeth eang o weithgareddau yn ymwneud â’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig trwy’r brifysgol gyfan.
Os ydych yn aelod staff a hoffech ystyried gwneud cais am grant o Gronfa Bangor, cysylltwch a Persida Chung, Swyddog Datblygu, i drafod ar p.v.chung@bangor.ac.uk.
Darganfyddwch fwy am gyfrannu.Â
Darganfyddwch fwy am gyfrannu.Â
Newyddion Cefnogi Bangor
-
20 Rhagfyr 2024
Cronfa Bangor wedi cefnogi myfyrwyr Cerddoriaeth Prifysgol Bangor i fynd i weithdai cyfansoddi gyda Sinfonia Cymru ac Ensemble Canolfan Gerdd William Mathias
-
12 Rhagfyr 2024
Cofion, Bywyd John Ellis Jones
-
24 Medi 2024
Cronfa Bangor yn cefnogi cynllun cyfnewid rhyngwladol i fyfyrwyr coedwigaeth a rheoli coetiroedd
-
24 Medi 2024
Cronfa Bangor yn cefnogi adnewyddu fflyd Clwb Cychod Prifysgol Bangor
-
23 Gorffennaf 2024
Cronfa Bangor yn cefnogi arddagosfa ar-lein o lyfrau Arthuriadd prin
-
3 Gorffennaf 2024
Rhodd Cymynrodd Prifysgol Bangor i gefnogi Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
-
25 Ionawr 2024
Rhoddion cyn-fyfyrwyr yn cefnogi fideos Undeb Bangor
-
22 Ionawr 2024
Cronfa Bangor yn cefnogi ymweliad i Archifau Stanley Kubrick
-
9 Ionawr 2024
Cronfa Bangor yn cefnogi hyfforddiant gwaith maes blaengar yn y gwyddorau naturiol
-
23 Hydref 2023
Cronfa Bangor yn hybu profiad myfyrwyr yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a'r Celfyddydau
-
17 Hydref 2023
Project 'Trafod Testun' wedi’i noddi gan Gronfa Bangor
-
16 Hydref 2023
Cronfa Bangor yn cefnogi Cronfa Fuddsoddi yn Ysgol Busnes Bangor