Ymchwil ac Effaith yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol
Rhannwch y dudalen hon
Mae meysydd ymchwil yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol ym Mhrifysgol Bangor yn eithriadol o eang ac yn rhychwantu ystod helaeth o wyddorau amgylcheddol a biolegol, o fioleg foleciwlaidd at brosesau ecosystemau a phopeth rhwng y ddau begwn.
Rydym yn gweithio ar amrywiaeth eang o systemau yn lleol o gwmpas Gogledd Cymru, a hefyd yn rhyngwladol, ac yn cydweithredu ar draws Ewrop, Affrica, Asia ac America. Ym Mangor mae gennym gyfleusterau ymchwil sy'n cynnig dadansoddiad moleciwlaidd o'r radd flaenaf, fferm ymchwil, gardd fotaneg a nifer o gyfleusterau anifeiliaid, gan gynnwys acwariwm, llofft colomennod, a chyfleusterau ymlusgiaid a chnofilod.
Mae ein hymchwil wedi ei rannu yn naw maes ymchwil fel y gwelir isod. O fewn y meysydd hyn fe welwch ein staff a chysylltiadau i’w rhaglenni ymchwil a'u harbenigeddau.
Mae ein hacademyddion a'n myfyrwyr yn cymryd rhan mewn projectau ymchwil ar draws y byd. Mae eu darganfyddiadau yn helpu i lunio polisïau'r llywodraeth ac yn newid yr union ffordd rydyn ni'n meddwl am bynciau pwysicaf y dydd.