Rheoli Argyfwng a Dilyniant Busnes
Mae’r Brifysgol am sicrhau ymateb cyflym ac effeithiol pe bai rhywbeth mawr yn digwydd parthed gweithgareddau’r Brifysgol. Er mai yn y gogledd y cynhelir y rhan fwyaf o weithgareddau’r Brifysgol, maent yn ymestyn dros lawer o leoliadau ac amgylcheddau daearyddol ac maent yn cynnwys llawer o bobl a phosibiliadau gwahanol. Mae’r Brifysgol yn ceisio ymdrin â digwyddiadau o’r fath er mwyn diogelu unigolion, cyfleusterau a’i henw da, ac adfer y gweithrediadau arferol cyn gynted ag y bo hynny’n ymarferol a phriodol.
Mae gan y Brifysgol bolisi ar gyfer rheoli digwyddiadau mawr mewn argyfwng. Pe bai digwyddiad o’r fath yn codi, byddai, fel rheol, yn bygwth y canlynol neu’n cael effaith ddifrifol arnynt:
- diogelwch y staff, y myfyrwyr, ymwelwyr neu gontractwyr (p’un a fyddont ar y safle neu beidio).
- difrod sylweddol i unrhyw gyfleuster o fewn y Brifysgol.
- risg sylweddol i enw da’r Brifysgol.
Y Prif Swyddog Gweithredu, Mr Michael Flanagan, yw’r Arweinydd Strategol ar gyfer rheoli argyfwng o fewn y Brifysgol. Cyfrifoldeb Gwenan Hine, Ysgrifenydd y Brifysgol, yw’r Arweinydd Tactegol yw goruchwylio rheoli argyfwng a digwyddiadau mawr.
Mae’r fframwaith polisi yn nodi’n glir y trefniadau rheoli a chyfathrebu sy’n ofynnol er mwyn ymateb i ddigwyddiadau mawr, yn ôl nodweddion a graddfa unrhyw argyfwng, ac mae gan y Brifysgol nifer o unigolion penodol sydd wedi cael hyfforddiant ym maes rheoli argyfwng ac wedi’u cyfarwyddo’n barod ar gyfer unrhyw ddigwyddiad mawr a allai godi.
I roi gwybod am ddigwyddiad, ffoniwch dîm diogelwch y Brifysgol ar 333.