Gweithio Deinamig
- Nodau
- Dychwelyd i’r Campws
- Beth ydym wedi ei ddysgu o’r pandemig?
- Felly beth yw gweithio deinamig?
- Egwyddorion Gweithio Dynamig
- Adnoddau (gan gynnwys Cwestiynau Cyffredin)
- Felly, beth yw’r manteision disgwyliedig?
Nod y ddogfen hon yw darparu fframwaith gweithio deinamig clir sy’n nodi egwyddorion cyson i wneud penderfyniadau a chefnogi ein dewisiadau.
‘Byddwn yn creu lle gwaith eithriadol, amrywiol a chynaliadwy a fydd yn annog pobl i gyflawni nodau personol a sefydliadol a sicrhau fod gennym oll bwrpas cyffredin. Byddwn yn recriwtio, yn cefnogi, yn dyrchafu ac yn dal ein gafael ar staff o ansawdd uchel sy’n perfformio’n dda, trwy greu amgylchedd a fydd yn caniatáu iddynt lwyddo. Bydd y brifysgol yn cael ei chydnabod fel un sy’n sylweddoli mai pobl yw ei hased pennaf ac sy’n cefnogi staff i gyflawni canlyniadau sy’n arwain y sector. Cryfhau a hyrwyddo ein pobl a’n talent’
Strategaeth Prifysgol Bangor 2030
Mae’r pandemig COVID-19 wedi effeithio’n fawr ar y ffordd rydym yn gweithio. Mae llawer o gyflogwyr wedi gorfod symud eu holl weithgareddau o’r swyddfa i’r cartref, yn hytrach nag edrych ar y ffordd maent yn gweithio. Ond erbyn hyn, rydym yn symud o orfod gweithio o bell i ddull gweithio deinamig.
Mae amrywiaeth eang o ymchwil yn dangos bod mwyafrif y gweithwyr eisiau parhau i weithio o gartref am o leiaf rhywfaint o’r amser ar ôl y pandemig.
Er bod rhai gweithwyr eisiau gweithio o gartref trwy’r amser ar ôl y pandemig, byddai’n well gan y mwyafrif gydbwysedd lle maent yn y swyddfa am rywfaint o’r wythnos a gartref am y gweddill.
Mae hyn wedi arwain at ddefnyddio term cymharol newydd: gweithio hybrid.
Chartered Institute of Personnel and Development (CIPD): “There are few precedents to follow, and it is likely that some experimentation will be required to determine just what will work in a particular context.â€
I’r brifysgol, fel yn achos mwyafrif y sefydliadau, bydd cyflwyno ffyrdd newydd o weithio yn gofyn am newid diwylliant sylweddol a ffyrdd newydd o weithio.
Dychwelyd i’r Campws
Beth allwn ei wneud a phryd? | Sut byddwn yn gweithio? |
---|---|
|
|
Beth ydym wedi ei ddysgu o’r pandemig?
- Mae gweithio o bell yn gweithio
- Mae technoleg yn gweithio (y rhan fwyaf o’r amser)
- Nid yw cynhyrchiant yn broblem
- Mae pobl (y rhan fwyaf ohonynt) eisiau gweithio’n hyblyg ar ryw ffurf
- Rydym yn parhau i fod eisiau presenoldeb ar y campws (a phobl)
Felly beth yw gweithio deinamig?
Dull busnes a phobl sy’n canolbwyntio ar weithio hyblyg sy’n sicrhau gwell effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddarparu gwasanaethau a hyblygrwydd sefydliadol, yn ogystal â manteision i bobl sy’n gweithio. Mae’n cyflawni hyn trwy foderneiddio arferion gwaith gan ddarparu gwell amgylcheddau gwaith a manteision i’r gweithwyr.
Rhaid i ni gydnabod y bydd gan staff ddisgwyliadau gwahanol ac y bydd gan y brifysgol ofynion gwahanol o’r staff.
Disgwyliadau gwahanol: Er bod rhai gweithwyr eisiau gweithio o gartref trwy’r amser ar ôl y pandemig, byddai’n well gan y mwyafrif gydbwysedd lle maent yn y swyddfa am rywfaint o’r wythnos a gartref am y gweddill.
Gofynion gwahanol: Mae amrywiaeth ein aelodau staff yn golygu ein bod mewn sefyllfa unigryw. Mae’r brifysgol yn gweithredu 24 awr y dydd, saith niwrnod yr wythnos, sy’n golygu bod ‘sut rydym yn gweithio’ yn gofyn am ffyrdd gwahanol o feddwl mewn gwahanol rannau o’r brifysgol. Bydd gweithio deinamig yn edrych yn wahanol ym maes dysgu, ymchwil, a darparu gwasanaethau ac ni fydd gan aelodau staff unrhyw hawl i ddewis sut maent yn gweithio.
- Nid yw gweithio deinamig yr un peth â gweithio hyblyg ac ni fydd rhai swyddi’n addas ar gyfer gweithio deinamig.
- Yn yr un modd, bydd yn bosib cyflawni holl ddyletswyddau rhai swyddi o bell. Ond mae’n parhau i fod yn bwysig bod gennym gampws bywiog a’n bod yn gallu diwallu anghenion ein myfyrwyr.
- Gall ffiniau eraill i weithio deinamig i staff gynnwys eu hamgylchedd gwaith personol yn eu cartref neu fynediad at offer a systemau TG priodol;
- Nid hawl i weithio o gartref yw gweithio deinamig, ond fframwaith i helpu staff i weithio mewn modd mwy hyblyg os yw eu swydd yn caniatáu hynny.
- Mae pwyntiau sefydlog yn yr wythnos waith yn cynnwys: gweithgareddau dysgu wedi eu hamserlennu, cyfarfodydd prifysgol, darparu gwasanaeth, gofal bugeiliol, digwyddiadau a’r ffaith bod angen i staff fod ar gael ar y campws.
Ond mae’r brifysgol yn dymuno adeiladu ar ei phrofiadau diweddar a mabwysiadu dull gweithio deinamig ar sail 7 thema ac egwyddor:
Adnoddau
- Gweithio Deinamig – dull cam wrth gam – adnodd i helpu rheolwr i ddadansoddi gwaith eu timau
- Pecyn Cymorth Gweithio Deinamig – cynlluniwyd i hyrwyddo dealltwriaeth ac i roi cymorth ymarferol ar gyfer gweithredu gweithio deinamig
- Rheoli Timau mewn Amgylchedd Gweithio Deinamig – awgrymiadau defnyddiol ar reoli timau mewn amgylchedd gweithio deinamig
- Cwestiynau Cyffredin
Felly, beth yw’r manteision disgwyliedig?
- Cynhyrchedd
- Denu a dal gafael yn y staff gorau
- Galluogi gweithwyr i symud ymlaen i swyddi uwch, beth bynnag eu hamgylchiadau personol
- Lleihau absenoldeb
- Dod yn brifysgol fwy cynaliadwy
- Cynyddu boddhad yn y gwaith, ymgysylltu a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
Fel y nodwyd uchod, prin yw’r cynseiliau i’w dilyn, ac mae’n debygol y bydd angen rhywfaint o arbrofi i benderfynu beth yn union fydd yn gweithio mewn cyd-destun penodol. Wrth i ni ddysgu a adlewyrchu ar ein profiadau ein hunain, byddwn yn adolygu ac yn ychwanegu at y wybodaeth a’r adnoddau ar y tudalennau gwe hyn.