Ym maes Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer mae gennym dros 40 mlynedd o brofiad mewn cyflwyno rhaglenni gradd israddedig a ni oedd un o'r Ysgolion Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer cyntaf i gynnig rhaglen meistr. Rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i gynnig taith drawsnewidiol go iawn i chi yn ystod eich astudiaethau. Fe gewch lawer o brofiadau ymarferol a chyffrous yn y labordy neu mewn amgylchedd chwaraeon, iechyd, ymarfer corff a hyfforddi. Mae ein cwricwlwm yn cael ei lywio gan ymchwil ac mae'n ymdrin â phynciau craidd Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer sef ffisioleg, seicoleg, ymarfer corff er lles iechyd ac fel meddyginiaeth, biomecaneg, a hyfforddi effeithiol, a bydd yn rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau y bydd arnoch eu hangen i ddilyn gyrfa ymarferol neu yrfa ymchwil mewn marchnad twf ym maes chwaraeon, iechyd, ymarfer corff ac anturio.Â