Mae ansawdd yr ymchwil a wneir mewn prifysgolion yn destun archwiliad dwys gan lywodraeth y Deyrnas Unedig bob rhyw saith mlynedd.
Cawsom hefyd ein rhoi ymysg y 10 uchaf am ansawdd ymchwil (Complete University Guide 2022). Nid mater o lwc yw'r llwyddiannau hyn, mae gennym draddodiad o hyrwyddo a chefnogi amgylchedd sy'n seiliedig ar ymchwil. Mae pob aelod o staff yn gwneud gwaith ymchwil a'r ymchwil blaenllaw hwnnw sy'n llywio'r addysgu. Ar ben hynny, rydym yn rhoi pwyslais cryf ar gymhwyso ymchwil i ymarfer ac mae pob myfyriwr, ni waeth beth fo'u cwrs, yn cael profiad o wneud gwaith ymchwil manwl dan oruchwyliaeth. Pam fod hyn yn bwysig? I gael gyrfa lwyddiannus yn y proffesiwn Chwaraeon ac Ymarfer mae cyflogwyr yn rhoi gwerth mawr ar allu nodi cwestiynau ymchwil perthnasol a meddu ar y sgiliau i wneud ymchwil i ateb y cwestiynau hynny. Yn syml, os oes arnoch eisiau gyrfa lle rydych chi'n parhau i ddysgu ac arwain ar ddatblygu gwybodaeth, mae gallu deall a chynnal ymchwil o ansawdd uchel yn hanfodol.Â
Byddwch yn cael dewis goruchwyliwr a fydd yn eich helpu i feithrin y sgiliau sy'n ofynnol i wneud ymchwil yn llwyddiannus a chewch hefyd eich mentora gan ymchwilydd sefydledig ym maes Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer. Mae lefel arbenigedd y mentor yn golygu ei fod/ei bod yn gweithio gyda sefydliadau blaenllaw (e.e., UK Sport, y GIG, a'r Weinyddiaeth Amddiffyn) yn eu helpu i ddatblygu arferion sy'n seiliedig ar ymchwil i alluogi'r sefydliadau hynny i barhau ar y brig yn eu camp; cewch gyfle i fod yn rhan uniongyrchol mewn ymchwil arloesol! Rhywbeth sy'n uniongyrchol berthnasol i fyfyrwyr ôl-radd yw ei bod yn beth gweddol gyffredin i brojectau ymchwil graddau Meistr gael eu cyhoeddi mewn cyfnodolion blaenllaw.Â
 Mae gennym arbenigedd penodol yn y meysydd canlynol:
- Seicoleg Perfformiad Elît (gan gynnwys adnabod talent a datblygu talent)
- Amgylcheddau Eithafol
- Gweithgarwch Corfforol, Iechyd a Lles
Yn ystod eich cwrs gradd byddwch yn arddangos canlyniadau eich profiad ymchwil mewn Cynhadledd Myfyrwyr, sy'n cael ei chydnabod gan fyfyrwyr ac arholwyr allanol fel un o nodweddion unigryw yn ein rhaglenni gradd. Bydd gweithio gyda'n staff academaidd a chyflwyno eich ymchwil fel hyn yn rhoi sgiliau trosglwyddadwy gwerthfawr iawn i chi megis bod yn drefnus, rheoli amser yn effeithiol, datrys problemau, sgiliau rhyngbersonol cadarnhaol, sgiliau dadansoddi a meddwl yn feirniadol.