Mae gan staff y Sefydliad Ymchwil Llesiant ddiddordeb mewn ymyriadau a all helpu i wella iechyd corfforol a meddyliol pobl.
Mae Bangor wedi bod yn arloeswr ym maes ymwybyddiaeth ofalgar ers blynyddoedd. Mae ein hymchwil wedi ystyried cymwysiadau newydd o dechnegau a sut mae ymwybyddiaeth ofalgar yn cael ei haddysgu, a sut y dylid ei haddysgu i wella llesiant pobl.
Mae gan Fangor hefyd draddodiad o arbenigedd yn y modelau seicotherapi trydedd don, megis therapi ymddygiad dialectig, therapi derbyn ac ymrwymo, a dulliau sy'n pwysleisio tosturi.
Mae gofalwyr yn ffigurau hanfodol nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi’n ddigonol yn ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Mae deall llesiant gofalwyr yn destun rhywfaint o.
Gan ein bod wedi’n lleoli yn ardal harddaf y Deyrnas Unedig, mae gan aelodau o’n grŵp ddiddordeb mewn ymyriadau ar gyfer iechyd sy’n cael eu cynnal mewn lleoliadau anarferol, megis therapi awyr agored ac antur.
Yn gynyddol, mae'r heriau iechyd a wynebwn yn deillio o gyflyrau iechyd hirdymor. Mae deall sut y gellir rheoli'r rhain orau yn faes ymchwil allweddol ym Mangor.