Mae ein Hysgol yn cynnig cyfleoedd sylweddol o ran iechyd a lles, ac mae hyn yn adeiladu ar ein gweithgarwch ac effaith ymchwil sylweddol ym maes iechyd ataliol ac ymyrraeth gynnar, a chymhwysiad clinigol ac addysgol ymchwil iaith, ynghyd â’n thema ymchwil niwrowyddoniaeth drosiadol sy’n prysur ddatblygu. Mae hyn, ochr yn ochr â’r ymyriadau llesiant a gwytnwch yn ein cwricwlwm, wedi sicrhau ein bod yn ganolfan o ragoriaeth o ran iechyd a lles. Mae cwricwla ymchwil yr Ysgol yn cael eu llywio, a’u cyflwyno, gan ymchwilwyr gweithredol, a llawer ohonynt yn aelodau o’r Sefydliad Llesiant.
Mae'r BSc mewn Seicoleg gyda Seicoleg Glinigol ac Iechyd yn radd boblogaidd gan fod llawer o ymgeiswyr seicoleg a graddedigion yn gobeithio dilyn gyrfaoedd mewn Seicoleg Glinigol. Ein nod yw gweithio gyda Rhaglen Seicoleg Glinigol Gogledd Cymru i ddatblygu llwybrau at Seicoleg Glinigol, trwy ein BSc a'n MSc mewn Seicoleg Glinigol ac Iechyd, ymlaen at hyfforddiant Doethurol.
Bydd myfyrwyr yn ymgymryd â modiwlau ar Seicoleg Glinigol, Seicoleg Gymhwysol a modiwlau ar Seicoleg Iechyd yn ein holl raddau seicoleg israddedig sydd wedi’u hachredu gan Gymdeithas Seicolegol Prydain (BPS). Ar Lefel 6 eu graddau israddedig, gall myfyrwyr ddilyn modiwlau dewisol mewn ymwybyddiaeth ofalgar. Mae'r Ysgol yn gartref i’r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Ymwybyddiaeth Ofalgar sydd o fri rhyngwladol. Mewn cydweithrediad â’r Ganolfan Ymchwil ac Ymarfer Meddylgarwch, rydym yn cynnig graddau lefel Meistr (lefel 7) y gellir eu hastudio’n rhan-amser ac sy’n ddeniadol i bobl sydd eisoes yn gweithio mewn swyddi proffesiynol.
Yn ogystal, rydym yn cynnig llwybr at yrfa mewn Cwnsela, gan gynnwys MSc mewn Cwnsela. Mae myfyrwyr sy'n dewis dilyn modiwl Sgiliau Cwnsela Lefel 6 yn ystod eu BSc gyda ni yn cael cynnig cyfweliad yn awtomatig os ydynt yn gwneud cais am y rhaglen MSc mewn Cwnsela.
Ìý
Ìý