Holl Newyddion A–Y
Cynllun arloesol i greu adnodd addysgiadol am ynni cymunedol yng Nghymru
Cafodd adnodd addysgiadol newydd am ynni cymunedol ei dreialu ymysg myfyrwyr Ysgol Dyffryn Ogwen, Bethesda Dydd Mercher y 12fed o Orffennaf. Datblygwyd y nofel graffig ‘Tic-Toc: Nofel graffig am ynni, perchnogaeth a chymuned’ gan Sioned Hâf ac Angharad Penrhyn Jones, yn rhan o broject i godi ymwybyddiaeth am y sector ynni cymunedol yng Nghymru. Mae’r nofel graffig ar-lein yma yn dilyn trywydd Gwenno, y prif gymeriad, wrth iddi gwestiynu’r system ynni presennol a darganfod potensial ynni cymunedol i gyfrannu tuag at ddyfodol cynaliadwy hirdymor.
Dyddiad cyhoeddi: 13 Gorffennaf 2017
Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda ni
Dyddiad cyhoeddi: 26 Tachwedd 2024
Gweithdy llwyddiannus am yrfaoedd yn y diwydiant niwclear
Daeth dros 70 o fyfyrwyr o nifer o wahanol ddisgyblaethau yn cynnwys peirianneg, cemeg, gwyddor amgylcheddol, busnes, y gyfraith, seicoleg a daearyddiaeth at ei gilydd mewn gweithdy a gynhaliwyd yn ddiweddar ym Mhrifysgol Bangor i ddysgu am yrfaoedd yn y diwydiant niwclear. Cynhaliwyd y gweithdy mewn partneriaeth â Horizon Nuclear Power, National Skills Academy for Nuclear (NSAN), a'r rhaglen Nuclear Graduates Programme.
Dyddiad cyhoeddi: 12 Mai 2015
Hitachi-GE, Imperial a Phrifysgol Bangor yn datblygu arbenigedd ym maes Adweithyddion Dŵr Berwedig (BWR) yn y Deyrnas Unedig a Chymru
Mae Hitachi-GE Nuclear Energy, Ltd. (Hitachi-GE) wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth gydag Imperial College a Phrifysgol Bangor sy'n cryfhau ei ymrwymiad i arbenigedd yng Nghymru a Phrydain.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2016
Labordy cenedlaethol y DU ar gyfer ymholltiad niwclear yn buddsoddi mewn ymchwilwyr doethurol
Mae’r Labordy Niwclear Cenedlaethol (LNC) wedi cyhoeddi eu bod am noddi dau fyfyriwr PhD yn y Brifysgol.
Dyddiad cyhoeddi: 26 Hydref 2021
Llwyddo wrth olchi: Sut mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn bwriadu atal ynni rhag mynd i lawr y draen.
Mae’r system a fydd yn cael ei gosod yng Nghastell Penrhyn yn deillio o gysylltiad yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol â phrosiect Dŵr Uisce , cydweithrediad rhwng Prifysgol Bangor a Choleg Trinity Dulyn. Bydd y dŵr a gyflenwir i’r gegin yn cael ei gynhesu yn rhannol drwy adfer y gwres o’r dŵr gwastraff. Mae’r dechneg yn golygu defnyddio dŵr poeth y draeniau, sydd ar ei boethaf yn 50°C, i ragboethi’r dŵr prif lif cyn iddo fynd i mewn i system gynhesu (biomas) bresennol y castell. Diolch i’r broses ragboethi, ni fydd angen cymaint o ynni i gynhesu’r dŵr poeth, gan arbed ynni, arian a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Ebrill 2018
Llwyddo yn y diwydiant niwclear
Yn ddiweddar mae dau fyfyriwr Prifysgol Bangor o Ogledd Cymru wedi cymryd camau breision at wireddu eu huchelgais o ddilyn gyrfa yn y diwydiant niwclear. Mae Lara Pritchard o Ddinbych, sydd ar hyn o bryd yn cwblhau blwyddyn olaf ei gradd Daearyddiaeth , wedi cael cynnig swydd ddisglair i raddedigion gyda Horizon Nuclear Power a bydd yn dechrau yno ym mis Medi. Bydd Ilan Davies o'r Bala, a fydd yn dechrau ar flwyddyn olaf ei gwrs Meistr Peiriannu Electronig pedair blynedd ym mis Medi, yn un o bump intern o'r Deyrnas Unedig a gaiff gyfle i weithio yn ninas Hitachi yn Japan am dri mis gyda Hitachi-GE Nuclear Energy Ltd.
Dyddiad cyhoeddi: 5 Gorffennaf 2016
Prifysgol Bangor a Pŵer Niwclear Horizon yn llofnodi memorandwm i gydweithio
Mae Prifysgol Bangor a Pŵer Niwclear Horizon, sy'n eiddo i un o brif gwmnïau electroneg y byd Hitachi, wedi llofnodi Memorandwm o Ddealltwriaeth ffurfiol a fydd yn galluogi'r ddau sefydliad i gydweithredu a chydweithio'n agosach mewn blynyddoedd i ddod.
Dyddiad cyhoeddi: 27 Ionawr 2015
Project yr UE i gefnogi'r diwydiant dŵr yng Nghymru ac Iwerddon
Mae Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth, wedi cyhoeddi project gwerth £2.5 miliwn, a ariennir gan yr UE, i wella cynaliadwyedd hirdymor y cyflenwad dŵr yng Nghymru ac Iwerddon.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Mawrth 2016
Staff a myfyrwyr Bangor yn cael profiad o Hyfforddiant Sgiliau Niwclear
Horizon Nuclear Power (a wholly owned subsidiary of Hitachi Ltd), is currently looking to invest over £10bn in a new nuclear power station at their Wylfa Newydd site, Northern Anglesey. It will provide 2,700MW of new power station capacity to the UK, enough to power around 5 million homes. Given its proximity to the University, ¶º±ÆÖ±²¥ and Horizon have signed a Memorandum of Understanding which will enable both organizations to collaborate and work more closely together in future years.
Dyddiad cyhoeddi: 11 Chwefror 2016
Ynni adnewyddadwy i Brifysgol Bangor
Mae Prifysgol Bangor wedi cyhoeddi bod 100% o’r trydan a ddefnyddir gan y Brifysgol bellach yn cael ei gyflenwi o ffynonellau adnewyddadwy gwarantedig.
Dyddiad cyhoeddi: 31 Hydref 2019