Ewch ar daith
Cysylltwch â'r Tîm
- aros@bangor.ac.uk
- +44 (0)1248 388088
Cwestiynnau a ofynnir yn aml
Llety Bangor
Wedi eu lleoli yng nghanol Ogledd Cymru mae ein llety wedi graddio yn llety campws 4* gyda mynediad hawdd i barc cenedlaethol Eryri ac i arfordir Ynys Môn a Gwynedd
Mae'r Ganolfan Rheolaeth yn cynnig Llety 4 seren graddfa Croeso Cymru, gyda 56 o ystafelloedd gwely gyda ensuite eithriadol. Mae llawer o'r ystafelloedd gwely gyda golygfeydd o'r Afon Menai ac Ynys Môn. Cyfraddau arbennig ar gael i Staff a Myfyrwyr Prifysgol Bangor. Archebwch ar-lein nawr
Arhosiad Term Byr a Hir
Mae ein hystafelloedd i gyd yn ystafell sengl gyda chyfleusterau en-suite wedi eu trefnu mewn unedau o 8 ystafell gyda chegin i rannu. Os ydych yn aros am 1 noson neu am fis mae ein llety ni yn cynnig amrywiaeth o opsiynau. Perffaith fel llety i gontractwyr, grwpiau addysg, grwpiau mawr neu unigolion sydd yn chwilio am rywle fforddiadwy i aros yn Ogledd Cymru.
Opsiynau Aros
Mae ein llety wedi ei darparu gyda dillad gwely a llieiniau. Mae gennym nifer o opsiynau ar gael i ymwelwyr o wely un unig i becynnau cinio, gwely a brecwast.
Byddwch yn ymwybodol er y cewch chi fynediad i geginau yn ystod eich arhosiad, nid byddwn yn eich cyflenwi gyda sosbannau ac offer cegin.
Archebu
Cofiwch fod y llety sydd ar gael yn llety'r campws ac yn ystod y tymor gall y campws fod yn swnllyd.
Pe baech yn cael unrhyw drafferth i ddefnyddio'r system archebu ar-lein hon, neu angen archebu mwy nag 8 ystafell neu aros 8+ o nosweithiau, a fyddech cystal ag anfon e-bost at aros@bangor.ac.uk neu ffonio aelod o'r Tîm Cynadledda ar +44 (0) 1248 388088 (Llun - Gwener 9am - 5pm).