Gwneud Ymholiad
- Ffôn: 01248 38365912
- E-bost: weddings@bangor.ac.uk
Priodasau
Mae Priodas eich Breuddwydion yn eich Disgwyl ym Mhrifysgol Bangor
Rydym yn cynnig dewis o leoliadau urddasol sy’n berffaith ar gyfer eich diwrnod arbennig, i gyd ar dir hardd y Brifysgol. Cewch ddewis o Brif Adeilad y Celfyddydau, sy’n draddodiadol a thrawiadol, neu Neuadd Hugh Owen, sef neuadd restredig Gradd II sydd â golygfeydd godidog dros y Fenai.
Gall Neuadd Hugh Owen ddal hyd at 120 o westeion ar gyfer dathliad eich priodas, tra bod Swît Menai, sydd ar y safle, wedi'i drwyddedu ar gyfer seremonïau priodas sifil i hyd at 100 o westeion.
Ar gyfer seremonïau mwy, mae Neuadd Powis ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau wedi'i drwyddedu ar gyfer seremonïau priodas sifil i hyd at 200 o westeion. Yn ogystal, gall Neuadd Prichard Jones ddal hyd at 240 o westeion ar gyfer gwledd briodas (dyddiadau cyfyngedig ar gael).
Am ragor o wybodaeth neu i drefnu ymweliad, cysylltwch â ni ar priodasau@bangor.ac.uk neu ffoniwch ni ar 01248 365912. Gadewch i Brifysgol Bangor fod y lleoliad perffaith ar gyfer diwrnod cofiadwy eich priodas.