Diwrnodau Adeiladu a Gwobrwyo Timau Corfforaethol
Mae diwrnodau gweithgareddau corfforaethol yn golygu bod eich tîm yn cael newid awyr, cael seibiant o bwysau gwaith bob dydd a chael llawer o hwyl!Â
Bydd eich tîm nid yn unig yn datblygu sgiliau newydd, ond bydd y gweithgareddau'n hybu morâl, yn gwella cyfathrebu a chydweithio. Ar ddiwedd y sesiwn, bydd y rhai fydd wedi cymryd rhan yn egnïol ac yn barod ar gyfer yr her nesaf.
Rydym wedi ein lleoli dafliad carreg o Barc Cenedlaethol syfrdanol Eryri ac ychydig funudau o arfordir Ynys Môn, yn baradwys i bopeth yn yr awyr agored. Â
P'un a ydych eisiau dysgu syrffio, rhoi cynnig ar arforgampau (coasteering), caiacio neu badlfyrddio gallwn roi cyngor ar ddarparwyr gweithgareddau lleol. Mae'r weiren wib gyflymaf yn y byd ar garreg ein drws ond os hoffech gadw'ch traed yn gadarn ar y ddaear gallwch grwydro ar hyd mynyddoedd Eryri neu chwarae golff. Â
Does dim prinder o bethau i'w gwneud felly rhowch wybod i ni pa fath o brofiad rydych chi'n chwilio amdano a gallwn eich rhoi ar ben ffordd.Â
Ebost: conferences@bangor.ac.uk
Ffôn: 01248 388088