Cwestiynau a Ofynnir yn Aml
A ellir trefnu cefnogaeth cyn i mi gyrraedd?
Gellir, yn ddelfrydol. Rydym yn annog darpar fyfyrwyr i gysylltu â ni i drafod eu gofynion. Rydym yn ysgrifennu at bob myfyriwr sy’n cynnwys gwybodaeth yn ymwneud ag anabledd ar y ffurflen gais a rhoi gwybodaeth am gyllid a’r gefnogaeth y gallwn eu rhoi. Lle bo angen, gallwn arwain myfyrwyr drwy’r broses dderbyniadau a’u helpu i wneud cais am , yn ogystal â chysylltu â’u hadran a ffynonellau cefnogaeth arall.
Dros yr haf, rydym yn gofyn i ddarpar fyfyrwyr lenwi ffurflen gofrestru ar-lein i’r Gwasanaethau Anabledd a rhoi tystiolaeth ddogfennol i ni. I gael gwybodaeth am sut rydym yn rhannu gwybodaeth yn ymwneud ag anabledd, darllenwch ein polisi ar gyfrinachedd. Unwaith y byddwn wedi cael y wybodaeth hon, byddwn yn drafftio Cynllun Cefnogi Dysgu Personol.
Yn ddelfrydol, byddwn yn gallu gwneud hyn mewn pryd ar gyfer eich wythnos gyntaf o ddarlithoedd, ond bydd hyn yn dibynnu pa mor gyflym rydym yn derbyn y wybodaeth gennych, neu gan y Ganolfan Asesu os cawsoch asesiad anghenion astudio ar gyfer Lwfansau Myfyrwyr Anabl . Y prif beth yw eich bod yn cadw mewn cysylltiad â ni – felly, gallwn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i chi cyn gynted â phosibl.
Addasiadau llyfrgell
Sut ydw i’n archebu llyfrau trwy’r gwasanaeth Clicio a Chasglu yn ystod yr argyfwng coronafirws?
Er mwyn ateb y galw am eitemau o’n casgliadau printiedig ac i gydymffurfio a chanllawiau iechyd a diogelwch a mesurau cadw pellter cymdeithasol, mae’r Llyfrgell yn treialu gwasanaeth diogel di-gyffwrdd. Bydd myfyrwyr cofrestredig ac aelodau staff yn gallu gwneud cais am eitemau i’w casglu ar adeg wedi ei drefnu o flaen llaw.
Mae’r gwasanaeth wedi ei gyfyngu i eitemau a gadwir yn y Brif Lyfrgell am y tro.
Nid wyf yn gallu nôl llyfrau fy hun oddi ar silffoedd llyfrgell. Pwy all helpu?
Os nodir ar eich Cynllun Cefnogi Dysgu Personol (PLSP) eich bod yn gymwys i gael defnyddio’r Gwasanaeth Casglu Llyfrau, gellwch wneud cais am i’r eitemau dan sylw gael eu casglu o’r silffoedd i chi eu nôl o’r ddesg gwasanaethau llyfrgell. Os hoffech ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, anfonwch e-bost at: library@bangor.ac.uk cyn 4p.m. Bydd yr eitemau ar gael i chi eu nôl erbyn 10am drannoeth. (Llun-Gwener). Cewch fwy o wybodaeth yma am gefnogaeth yn ein llyfrgelloedd.
Mae arnaf angen llyfr print mewn fformat arall, â phwy y dylwn gysylltu i gael cymorth?
Cysylltwch â Swyddog Cefnogaeth Academaidd y llyfrgell llyfrgell@bangor.ac.uk
Sut ydw i’n cael dogfennau mewn fformatau arall?
Mae gan y Brifysgol drwydded safle ar gyfer SensusAccess. Mae hwn yn ddull hunan-wasanaeth sy’n galluogi myfyrwyr a staff Prifysgol Bangor i drosi dogfennau’n awtomatig i fformat arall, gan gynnwys llyfrau-llafar, e-lyfrau a Braille digidol.
Anifeiliaid Cymorth ar y campws
Mae Prifysgol Bangor wedi adolygu ei pholisi ar anifeiliaid ar gampws yn ddiweddar. Caniateir Cŵn Cymorth sydd wedi’u hyfforddi, sy’n dod gyda myfyrwyr i’r Brifysgol i mewn i adeiladau a chyfleusterau’r Brifysgol, gan gynnwys Neuaddau Preswyl, yn unol â’r gyfraith.
Ni chaniateir i anifeiliaid therapi/anifeiliaid cymorth emosiynol heb eu cofrestru ddod gyda myfyrwyr i’r Brifysgol, na chael eu cartrefu yn llety’r Brifysgol ond dylai myfyrwyr drafod strategaethau amgen gyda’n Cynghorwyr Iechyd Meddwl. Dylai myfyrwyr â Chŵn Cymorth gysylltu â’r Gwasanaethau Anabledd yn y lle cyntaf i drafod gweithdrefnau ac ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Anawsterau Gweledol
Pa gefnogaeth sydd ar gael i mi?
Os oes gennych ddiagnosis o anawsterau gweledol (a elwir hefyd yn Syndrom Irlen / Sensitifedd Sgotopig / Straen Gweledol) yna mae gennych hawl i ddefnyddio eich troshaenau mewn arholiadau, yn union fel y mae’n rhaid caniatáu i fyfyrwyr sydd â sbectol bresgripsiwn ddefnyddio eu sbectol. Serch hynny, ni ddylid ystyried defnyddio troshaenau o’r fath fel addasiad ar gyfer anabledd, ac ni ddylid rhoi amser ychwanegol i fyfyrwyr mewn arholiadau ar sail yr angen hwn.
Rydym yn argymell eich bod yn siarad ag un o’n Hymgynghorwyr Anabledd i drafod y strategaethau posib sydd ar gael i chi.
Os gwneir cais am drefniadau arholiadau ychwanegol, megis amser ychwanegol neu ddefnyddio cyfrifiadur, bydd yn ofynnol i chi ddarparu tystiolaeth bellach gan arbenigwr cymwysedig ar gyfer y trefniadau hynny. Gallech hefyd gael eich cyfeirio am asesiad diagnostig llawn ar gyfer Gwahaniaeth Dysgu Penodol, neu efallai y gofynnir i chi ddarparu asesiad o’r fath. (Canllawiau o SASC Pwyllgor Safonau Asesu Gwahaniaeth Dysgu Penodol, tud.26, Mehefin 2018).
Arholiadau
Roeddwn yn cael amser ychwanegol mewn arholiadau yn yr ysgol/coleg. Oes gen i hawl i gael amser ychwanegol yn y brifysgol?
Efallai. Bydd angen i chi gofrestru â’r Gwasanaethau Anabledd, rhoi tystiolaeth ddogfennol i ni a chael Cynllun Cefnogi Dysgu Personol Gwnewch hyn cyn gynted â phosibl.
Mae fy nghynllun cefnogi dysgu personol (PLSP) yn rhoi 25% o amser ychwanegol i mi mewn arholiadau ond cafodd yr holl fyfyrwyr yr amser ychwanegol yn rhai o’r arholiadau yn y dosbarth. A yw hyn yn deg?
Os yw asesiadau wedi eu cynllunio i roi digon o amser i bob myfyriwr ddangos deilliannau dysgu modiwl, ac yn galluogi pob myfyriwr i ddangos eu gwybodaeth neu eu cymhwysedd i’r eithaf, yna ystyrir bod hyn yn arfer cynhwysol da. Yn aml, mae’n bosib rhoi amser ychwanegol (e.e. 25% o amser ychwanegol) i’r holl fyfyrwyr mewn asesiadau ar-lein ac yn y dosbarth. Mae’n dileu’r stigma o wahanu’r myfyrwyr hynny sydd angen addasiadau yn y dosbarth a’r angen am ystafelloedd ar wahân neu am drefniadau amserlennu ychwanegol.
Gall myfyrwyr sydd â 25% o amser ychwanegol mewn arholiadau fel addasiad rhesymol yn eu PLSP deimlo dan anfantais oherwydd bod myfyrwyr nad ydynt yn anabl yn cael mwy o amser i ysgrifennu a chael amser i adolygu eu gwaith. Ond dylai asesiad sydd wedi ei gynllunio’n dda roi digon o amser i’r holl fyfyrwyr ateb cwestiynau’n llawn ac adolygu eu gwaith. Ni fydd ‘ysgrifennu mwy’ o reidrwydd yn bodloni deilliannau dysgu’r asesiad a cheir ymchwil sy’n dangos nad yw’r math hwn o asesiad cynhwysol yn rhoi mantais i fyfyrwyr nad ydynt yn anabl.
Cyfeiriadau
Ofiesh, N., Mather, N. & Russell, A. (2005). Using speeded cognitive, reading, and academic measures to determine the need for extended test time among university students with learning
disabilities. Journal of Psychoeducational Assessment, 23, 35–52.
Duncan, H. & Purcell, C. (2019) Consensus or contradiction? A review of the current research into the impact of granting extra time in exams to students with specific learning difficulties (SpLD),Journal of Further and Higher Education, DOI:
Beth os fydd amgylchiadau personol wedi effeithio ar fy mherfformiad academaidd?
Defnyddiwch adroddiad amgylchiadau arbennig i roi gwybod i’ch ysgol. Gallwch wneud hyn trwy’r Ganolfan Geisiadau. Gweler y r am ragor o wybodaeth.
Am ragor o gyngor ac arweiniad, cysylltwch â’ch tiwtor personol neu’r tiwtor anabledd ar gyfer eich ysgol. Os oes gennych gynllun cefnogi dysgu personol ac yn teimlo bod angen ei ddiweddaru i adlewyrchu eich anawsterau presennol, anfonwch e-bost i gwasanaethanabledd@bangor.ac.uk a gofyn am apwyntiad gyda’r tîm cynghori perthnasol.
Cadw mewn Cysylltiad
Sut mae Cynghorwyr yn cadw mewn cysylltiad?
Unwaith y byddwch wedi cofrestru gyda’r Gwasanaethau Anabledd a bod Cynllun Cefnogi Dysgu Personol (PLSP) wedi cael ei baratoi ar eich cyfer, mae croeso i chi wneud apwyntiad i weld Cynghorydd yn ôl yr angen yn ystod oriau swyddfa arferol. Efallai y bydd yn well gennych anfon e-bost atom, a byddwn yn ymateb cyn gynted ag y gallwn o fewn oriau swyddfa.
Byddwn hefyd yn cadw mewn cysylltiad gyda chi drwy amryw o ffyrdd:
Drwy e-bost – er enghraifft, byddwn yn anfon negeseuon atgoffa am ddyddiadau terfyn ar gyfer archebu addasiadau i arholiadau, neu wybodaeth amserol arall.
- Drwy ymateb i’ch e-byst.
- Anfon ein Cylchlythyr chwarterol atoch drwy e-bost.
- Drwy gynnig apwyntiad os ydym angen eich gweld.
- Cynnig sesiynau galw heibio wythnosol ar brynhawn Mercher yn Pontio gyda’r Cynghorwyr Iechyd Meddwl (adeg tymor yn unig – cadwch lygad am ein poster).
Hefyd mae yna flwch ticio yn y Cynllun Cefnogi Dysgu Personol y gall Cynghorwyr ei ddefnyddio os ydynt yn dymuno trefnu apwyntiad arolygu gyda chi bob semester – er mwyn cael sgwrs a gweld sut mae pethau’n mynd.
Cyfrinachedd
Trwy nodi gwybodaeth am anabledd ar eich ffurflen gais, yn cynnwys unrhyw gyflwr meddygol perthnasol, gwahaniaeth dysgu penodol neu anhawster iechyd meddwl, byddwch yn ein galluogi i drafod yn gynnar unrhyw anghenion cefnogaeth astudio posib sydd gennych. Bydd y trafodaethau hyn yn gyfrinachol a chânt eu rhannu ar sail ‘angen gwybod’ yn unig o fewn y Sefydliad lle bo hynny’n briodol a chyda’ch caniatâd. Gweler cyfrinachedd.
Cyllid
Beth yw Lwfansau i Fyfyrwyr Anabl (LMA)?
Mae’r rhain yn grantiau heb brawf moddion sydd ar gael ar gyfer rhai o’r costau ychwanegol y gall myfyrwyr eu wynebu oherwydd cyflwr iechyd meddwl; gwahaniaeth dysgu penodol, megis dyslecsia, dyspracsia neu ADHD; salwch hir dymor; neu unrhyw amhariad arall. Am ragor o wybodaeth, yn cynnwys gweld a ydych yn gymwys ai peidio,
Ymhle gallaf gael Asesiad Anghenion Astudio ar gyfer LMA?
Am wybodaeth am Ganolfan Asesu Prifysgol Bangor, gweler Canolfan Access Bangor i ddod o hyd i Ganolfan Asesu yn eich ardal chi, gweler y cyswllt gwe ar eich llythyr LMA.
Rwy’n gymwys i gael LMA, ond rwyf eisoes wedi prynu offer i’m cynorthwyo, a allaf hawlio cost yr offer yn ôl? Dim ond offer, meddalwedd a nwyddau traul a argymhellir gan asesydd anghenion ac a gymeradwywyd gan yr LMA y gellir eu hariannu fel hyn. Ni fydd mwyafrif y cyrff cyllido yn talu’n ôl am unrhyw beth a brynwyd cyn iddo gael ei gymeradwyo gan yr LMA. Gellir ychwanegu eitemau eraill sy’n gysylltiedig ag anabledd yn dilyn yr apwyntiad asesu anghenion, ond mae’n bwysig nad ydych yn prynu unrhyw offer sy’n gysylltiedig â’r LMA tan ar ôl i’r llythyr cymeradwyo roi caniatad ichi wneud hynny.
Beth os nad wyf yn gymwys i dderbyn Lwfansau Myfyrwyr Anabl?
Mae cefnogaeth yn dal ar gael, felly trefnwch i weld Cynghorwr i drafod hyn. Er enghraifft, efallai y gellwch fenthyca offer. Mae gan y brifysgol gronfa fechan i dalu am gostau cefnogaeth ychwanegol i’r myfyrwyr hynny nad ydynt yn gymwys i dderbyn Lwfansau Myfyrwyr Anabl. I wneud cais bydd rhaid i chi fynd i weld Cynghorwr, rhoi tystiolaeth o’ch anabledd a chael asesiad anghenion astudio, a all gynnwys eich Ysgol.
Dewis iaith
Mae Prifysgol Bangor yn gweithio o fewn polisi dwyieithrwydd. Yn y Gwasanaethau Anabledd, os bydd unrhyw fyfyriwr yn gofyn i ni ohebu â hwy trwy gyfrwng y Gymraeg yn unig neu drwy gyfrwng y Saesneg yn unig, byddwn yn ymdrechu i wneud hynny bob amser. Os oes gan fyfyrwyr ofynion technoleg gynorthwyol, er enghraifft os yw myfyriwr yn defnyddio darllenydd sgrin sydd wedi ei osod i ddarllen iaith benodol, byddwn hefyd yn anfon yr ohebiaeth naill ai yn Gymraeg neu yn Saesneg, ond mae hyn hefyd yn dibynnu ar fyfyrwyr yn rhoi gwybod i ni am eu gofynion yn hyn o beth.
Dweud wrth y brifysgol am fy anghenion
Sut ydw i’n cael cefnogaeth os na wnes i ddatgan bod gennyf anabledd ar fy ffurflen gais?
Gwnewch drefniadau i weld Cynghorwr i drafod yr opsiynau cefnogaeth sydd ar gael i chi. Bydd yn ddefnyddiol os gellwch ddod â thystiolaeth ddogfennol gyda chi.
Eithriadau i orchuddio’r wyneb
Mae Adran Tri canllawiau Llywodraeth Cymru’n nodi rhestr o “resymau dilys” dros beidio â gwisgo gorchudd. Mae’r grwpiau a’r lleoliadau’n cynnwys:
- Y rhai na allant roi gorchudd wyneb amdanynt, eu gwisgo na’u tynnu oherwydd salwch neu nam corfforol neu feddyliol, neu anabledd.
- Y rhai y byddai rhoi gorchudd wyneb amdanynt, ei wisgo neu ei dynnu’n peri trallod mawr iddynt.
- Pobl sy’n teithio gyda rywun sy’n dibynnu ar ddarllen gwefusau i gyfathrebu neu’n darparu cymorth i rywun o’r fath.
- Er mwyn gwarchod rhag niwed neu anaf, neu risg o niwed neu anaf, i chi’ch hun neu i eraill er mwyn gwarchod rhag anaf, neu i ddianc rhag risg o niwed.
- Er mwyn bwyta neu yfed os yw’n rhesymol angenrheidiol.
- Cymryd meddyginiaethau.
Llety neuaddau
Ydi llety myfyrwyr yn hygyrch?
Mae nifer o ystafelloedd en-suite mewn neuaddau wedi cael eu cynllunio ar gyfer mynediad i gadair olwyn, gyda cheginau’n cynnwys stofiau, byrddau gwaith a sinciau ar lefel isel. Mewn nifer o neuaddau gosodwyd rampiau, lifftiau i gadeiriau olwyn, cyfleusterau toiled a chawod hygyrch a mynediad i’r rhyngrwyd er mwyn rhoi amrywiaeth o ddewis i fyfyrwyr. Mewn nifer o ystafelloedd ar wahanol safleoedd gosodwyd systemau larwm gweledol a peiriannau galw dirgrynol (pagers) i fyfyrwyr sy’n fyddar neu’n drwm eu clyw. Mwy o wybodaeth...
Cewch rhagor o wybodaeth am ein ystafelloedd ar ein gwefan llety.
Gadael adeiladau mewn argyfwng
Nid wyf yn gallu cerdded i fyny neu i lawr grisiau. Beth fydd yn digwydd mewn argyfwng os na allaf ddefnyddio lifft?
Mae mannau lloches diogel wedi cael eu nodi ymhob prif adeilad. Bwriad y mannau hyn yw rhoi lle diogel i bobl aros i ddisgwyl cymorth gan y Gwasanaeth Tân, gan barhau mewn cysylltiad â staff y Brifysgol drwy’r adeg. Lle bo’r angen, bydd ein Cynghorwr Iechyd a Diogelwch yn llunio Cynllun Dianc Personol mewn Argyfwng (PEEP) gyda myfyrwyr. Mae gwybodaeth bellach i’w chael yn Iechyd a Diogelwch i’r Anabl.
Am wybodaeth am leoliad mannau lloches diogel, gweler Mynd o Amgylch Prifysgol Bangor
Myfyrwyr rhyngwladol
Oes yna gefnogaeth i fyfyrwyr rhyngwladol?
Oes, er nad oes cyllid LMA i fyfyrwyr rhyngwladol. Mae gan y brifysgol gronfa fechan i dalu am gostau cefnogaeth ychwanegol i’r myfyrwyr hynny nad ydynt yn gymwys i dderbyn Lwfansau Myfyrwyr Anabl y Deyrnas Unedig. I wneud cais bydd rhaid i chi fynd i weld Cynghorwr, rhoi tystiolaeth o’ch anabledd a chael asesiad anghenion astudio, a all gynnwys eich Ysgol.
Parcio
Mae gennyf Fathodyn Glas, ond sut ydw i’n mynd i mewn i feysydd parcio gyda rhwystrau?
Bydd arnoch angen trwydded barcio ac/neu ffob. Gall deiliaid Bathodyn Glas barcio yn y mannau penodol iddynt yn unrhyw rai o feysydd parcio’r brifysgol a gallant wneud cais am drwydded barcio am ddim fel addasiad o fewn eu Cynllun Cefnogi Dysgu Personol. Anfonwch e-bost at y Cynghorwyr Anabledd neu ffonio 01248 383620 / 382032.
Sylwer – pan fyddwch yn parcio mewn man penodedig i ddeiliaid Bathodyn Glas mae’n rhaid i chi arddangos bathodyn cyfredol bob amser.
Nid oes gennyf Fathodyn Glas ond mae gennyf drafferthion symud, lle alla i barcio?
Dim ond deiliaid Bathodyn Glas all barcio mewn mannau penodedig i ddeiliaid y bathodyn. Os nad ydych yn ddeiliad Bathodyn Glas, ond bod gennych drafferthion symud, gellwch wneud cais am Drwydded Barcio i Fyfyrwyr a fydd yn eich galluogi i barcio yn unrhyw un o feysydd parcio’r brifysgol fel addasiad o fewn eich Cynllun Cefnogi Dysgu Personol. Bydd angen i chi roi tystiolaeth feddygol berthnasol a thalu’r tâl arferol am drwydded barcio. Anfonwch e-bost at y Cynghorwyr Anabledd neu ffonio 01248 383620 / 382032. Sylwer- nid yw rhoi trwydded yn gwarantu y bydd lle parcio ar gael i ddeiliad y drwydded – mae’r galw am leoedd parcio weithiau’n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael.
Rhannu gwybodaeth gyda Darparwr fy Lleoliad
Er y bydd rhai myfyrwyr efallai yn hapus rhannu gwybodaeth yn gysylltiedig ag anabledd â’r brifysgol, gallant fod yn amharod i’r wybodaeth honno gael ei rhannu â’r darparwr lleoliad. Gallwch drafod y materion sensitif y mae rhannu gwybodaeth o’r fath yn eu codi gyda Thiwtor Anabledd eich Ysgol Academaidd neu gyda Chynghorydd o’r Gwasanaethau Anabledd. Efallai na fydd yr holl wybodaeth yn berthnasol i’r lleoliad ac efallai mai dim ond rhai aelodau staff yn y lleoliad fydd angen cael y wybodaeth ar sail angen i wybod. Dylech hefyd feddwl pa addasiadau y gallwch yn rhesymol ofyn am gael eu gwneud gan gofio na fydd y darparwr lleoliad yn gallu cynnig unrhyw gefnogaeth oni bai ei fod yn ymwybodol o’ch sefyllfa. Mae myfyrwyr wedi ei chael yn ddefnyddiol rhannu copi o’u Cynllun Cefnogi Dysgu Personol (PLSP) – gall Cynghorydd o’r Gwasanaethau Anabledd eich helpu gyda hyn.
Ar adegau, yn dibynnu ar natur y lleoliad, gall fod goblygiadau cysylltiedig ag anabledd y mae angen eu trafod (er enghraifft, wrth weithio gyda phlant neu grwpiau bregus eraill, neu gyda chemegion neu offer peryglus). Dan amgylchiadau felly byddai angen cynnal asesiad risg llawn, gan roi ystyriaeth i addasiadau rhesymol. Siaradwch â Thiwtor Anabledd eich ysgol academaidd neu un o Gynghorwyr y Gwasanaethau Anabledd pe bai hyn yn berthnasol i chi.
Sut yr ymdrinnir â’ch cais
Mae’n bolisi gan y Brifysgol ystyried ceisiadau gan ddarpar-fyfyrwyr anabl ar yr un sail ag sy’n berthnasol i bob myfyriwr, felly peidiwch â phoeni am roi tic yn y blwch anabledd perthnasol ar eich ffurflen UCAS neu ffurflen gais wahanol. Gallwn drefnu ymweliad ar eich cyfer yn ystod y broses dderbyniadau er mwyn gallu trafod eich anghenion unigol. Bydd Cynghorwr yn cysylltu â’r tiwtor derbyniadau ar eich rhan a gellir trefnu eich ymweliad ar adeg sy’n gyfleus i chi, o bosib yn ystod un o Ddyddiau Agored yr Ysgol. Cewch y cyfle i drafod gofynion y cwrs yn fanwl a byddwch yn gallu asesu addasrwydd mynediad drosoch ein hun ynghyd â’r ddarpariaeth sydd ar gael yn y sefydliad.
Sut mae cael estyniad ar gyfer fy aseiniad?
Gweler y wybodaeth ddefnyddiol yn y .
Am ragor o gyngor ac arweiniad, cysylltwch â’ch tiwtor personol neu’r tiwtor anabledd ar gyfer eich ysgol.
Tystiolaeth ddogfennol
Pa dystiolaeth o anabledd mae angen i mi ei darparu i gofrestru gyda’r Gwasanaethau Anabledd?
Fel rheol bydd llythyr gan feddyg teulu yn amlinellu eich cyflwr a’i effaith arnoch yn ddigonol. Os oes gennych wahaniaeth dysgu penodol (GDP), fel dyslecsia, yna bydd arnoch angen adroddiad gan seicolegydd addysg, neu diwtor arbenigol gyda chymhwyster addas sydd gyda thystysgrif gyfredol i gynnal asesiadau. Efallai y byddwn yn fodlon derbyn y dystiolaeth a gawsoch mewn ysgol, ond bydd angen iddi gael ei harchwilio gan Gynghorwr GDP.
Yn unol â rheoliadau’r brifysgol, bydd angen i bob tystiolaeth fod yn Gymraeg neu Saesneg; dylid darparu unrhyw gyfieithiadau o’r gwreiddiol trwy wasanaeth cyfieithu proffesiynol cymwys.
A ddylwn i ymgymryd ag adroddiad asesu diagnostig ar gyfer Gwahaniaeth Dysgu Penodol (e.e. dyslecsia) cyn i mi ddechrau yn y Brifysgol?
Os oes gennych Wahaniaeth Dysgu Penodol (GDP) fel dyslecsia, yna er mwyn i chi wneud cais am y Lwfans Myfyrwyr Anabl (LMA) bydd arnoch angen darparu tystiolaeth ar ffurf adroddiad diagnostig, wedi’i ysgrifennu’n unol â Chanllawiau Gweithgor GDP 2005, gan naill ai:
- Seicolegydd cofrestredig neu
- Athro/athrawes arbenigol cymwysedig sy’n meddu ar Dystysgrif Ymarfer Asesiad GDP.
Yna gallwch anfon copi o’ch asesiad diagnostig gyda’ch cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl cyn i chi ddechrau yn y Brifysgol.
Bydd angen i’ch Darparwr Cyllid LMA gymeradwyo eich cais os ydych yn gymwys. Yna byddant yn anfon llythyr cymeradwyo atoch i drefnu Asesiad Anghenion LMA. Bydd hwn yn gyfarfod anffurfiol gydag Aseswr Anghenion profiadol i’ch helpu i benderfynu ar y fath o gefnogaeth a fydd yn eich helpu gyda’ch anghenion neilltuol.
Gallwch ddewis unrhyw Ganolfan Asesu Anghenion LMA a hawlio costau teithio. Mae rhestr o’r Canolfannau Asesu i’w gweld ar . Mae gennym hefyd Ganolfan ym Mangor sydd â gwybodaeth drylwyr am y ddarpariaeth yma ym Mhrifysgol Bangor.
Bydd rhoi’r uchod i gyd yn ei le cyn i chi ddechrau yn y Brifysgol yn sicrhau bod y gefnogaeth rydych ei angen ar gael o ddechrau eich astudiaethau.
Y system Clirio
Os ydych yn ystyried dod i Fangor drwy’r system Glirio, dylech roi gwybod am eich amgylchiadau yn y lle cyntaf i’r Llinell Gymorth Glirio neu i’r tiwtor derbyniadau yn yr adran, ac yna cysylltu â’r Gwasanaethau Anabledd neu roi galwad i 01248 383620 / 382032 i drafod eich anghenion yn fanwl.
Yr amgylchedd ffisegol ym Mangor
Mae’r Brifysgol wedi’‘i lleoli yn ninas fechan Bangor mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol ger yr Wyddfa a’i chriw, felly mae’n amgylchedd mynyddig. Ond mae’n gampws bach a chyfeillgar felly bydd eich llety yn gymharol agos at adeiladau’r brifysgol, ac mae cyfleusterau siopa a hamdden gerllaw. Gall fod rhwystrau i bobl gydag anawsterau symud a gall fod yn anodd mynd i rai o’n hadeiladau hynaf. Os ydych yn cael anhawster symud, rydym yn eich cynghori i ddod i weld y brifysgol i asesu’r ochr ymarferol eich hun. Lle bo’n bosibl, rydym yn gwneud addasiadau rhesymol i gwrdd â gofynion arbennig. Rydym bob yn amser yn falch o gyfarfod â darpar fyfyrwyr mewn dyddiau agored neu ar unrhyw adeg gyfleus arall. Cysylltwch ag un o’n cynghorwyr anabledd a byddwn yn falch o’ch cyfarfod a gwneud trefniadau i fynd â chi o gwmpas.
Ystyriaethau marcio (Slip Melyn)
Mae myfyrwyr Prifysgol Bangor gyda Gwahaniaeth Dysgu Penodol, sydd wedi eu cofrestru gyda’r Gwasanaethau Anabledd ac sydd â Chynllun Cefnogi Dysgu Personol wedi ei sefydlu, yn cael cynnig addasiadau rhesymol slip melyn.
Mae’r slip melyn yn golygu y bydd gwaith cwrs ac arholiadau yn cael eu marcio yn ôl cynnwys a syniadau, ac ni fydd marciau’n cael eu tynnu am sillafu a strwythur, oni bai bod y rhain yn rhan o’r meini prawf marcio/ deilliannau dysgu.
Mae fersiwn electronig o’r slip melyn ar gael ar gyfer cyflwyniadau electronig y gallwch ei gopïo a’i gludo i’ch blaenddalen/dogfennau cyflwyno.
I fynd at y slip melyn electronig:
- Ewch i’ch tudalen .
- De-gliciwch ar y ddelwedd o slip melyn.
- De-gliciwch ar y ddelwedd copïo.
- Gludwch y ddelwedd i ddogfen Word.
- Fel arall gellir llusgo’r ddelwedd o’r dudalen cynllun cefnogi dysgu personol yn syth i ddogfen Word.
Wedi’i ddiweddaru 15.02.2021