Tudalennau Caplaniaeth a Darpariaeth Ffydd
Newyddion Y Gaplaniaeth a darpariaeth ffydd ehangach
Newyddion a Digwyddiadau
Gwasanaeth Carolau
Dyddiad: Nos Iau, 12 Rhagfyr
Amser: 7:00pm – 8:30pm
Lleoliad: Neuadd Prichard Jones, Prif Adeilad y Brifysgol
Cyswllt: Ingrid Pedersen, Swyddog Digwyddiadau Corfforaethol
Ymunwch yn ysbryd yr ŵyl wrth i ni ganu carolau clasurol a dathlu llawenydd y Nadolig gyda’n gilydd.
Mae Gwasanaeth Carolau y Brifysgol yn gyfle i ddod ynghyd i gofio’r rheswm dros ddathliadau’r Nadolig ac i ddiolch; i glywed rhai perfformiadau bendigedig gan Gôr y Siambr a Bandiau Cyngerdd a Phres y Brifysgol, ac i ymuno yn rhai o’ch hoff garolau.
Ymunwch yn ysbryd yr ŵyl wrth i ni ddathlu llawenydd y Nadolig gyda’n gilydd. Dewch â'ch ffrindiau a'ch teulu gyda chi am noson o ryfeddod yn llawn cerddoriaeth a darlleniadau.
Mae’r digwyddiad am ddim, ond mae angen cofrestru o flaen llaw.
Croeso i bawb!
Gwasanaeth Dydd y Cofio
Cynhelir Gwasanaeth Dydd y Cofio byr ddydd Llun, 11 Tachwedd, yn yr awyr agored yn y Cwad Mewnol, Prif Adeilad y Celfyddydau neu dan do ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau os bydd y tywydd yn wael.
Arweinir y gwasanaeth gan y Parchedig John Thompson, Gweinidog yn Eglwys Bedyddwyr Penrallt. Mae John yn un o Gaplaniaid gwirfoddol Tîm Caplaniaeth y Brifysgol.
Bydd y gwasanaeth yn dechrau tua 10:50am ac yn para oddeutu 15 munud yn cynnwys dau funud o dawelwch am 11:00am.
Mae croeso i bawb.
Gwasanaeth Carolau'r Brifysgol
Trefn y Gwasanaeth
Chanukah
Gwasanaeth Dydd y Cofio
Cynhelir Gwasanaeth Dydd y Cofio byr ddydd Gwener, 10 Tachwedd, yn yr awyr agored yn y Cwad Allanol, Prif Adeilad y Celfyddydau neu dan do ym Mhrif Ddarlithfa’r Celfyddydau os bydd y tywydd yn wael.
Arweinir y gwasanaeth gan y Parchedig John Thompson, Gweinidog yn Eglwys Bedyddwyr Penrallt. Mae John yn un o Gaplaniaid gwirfoddol Tîm Caplaniaeth y Brifysgol.
Bydd y gwasanaeth yn dechrau tua 10:50am ac yn para oddeutu 15 munud yn cynnwys dau funud o dawelwch am 11:00am.
Mae croeso i bawb.
Eglwys Uniongred Ddwyreiniol
Cwrdd Crynwyr ym Mhrifysgol Bangor
Ystafell Cyfarfod 2, Llawr isod
Neuadd Rathbone
Bob 4ydd Mercher
Dechrau 22eg Mawrth
(26 Ebrill, 24 Mai, 28 Mehefin, 26 Gorffennaf)
Cyfarfod ein gilydd 2.15pm
Dechrau 2.30-3pm
Myfyrfodi yn ddistaw
Dadblygu yn ysbrydol
Cyfeillgarwch a
Chefnogaeth