Cynllunio Teulu a Iechyd Rhywiol
Y Nyrs Iechyd Myfyrwyr sy’n ymwneud â Chynllunio Teulu yn y Feddygfa, a bydd yn rhoi cyngor ar wahanol ddulliau o atal cenhedlu, rhoi cyflenwadau o’r bilsen atal cenhedlu, rhoi’r “bilsen bore trannoeth” a gwneud profion ceg y groth. Gwnewch apwyntiad gyda’r Nyrs Iechyd Myfyrwyr ar 364492 os gwelwch yn dda.
Atal Cenhedlu Brys: Mae gan fyfyrwyr sydd angen y dull hwn o atal cenhedlu 72 awr i dderbyn triniaeth ar ôl cael cyfathrach rywiol ddiamddiffyn – gorau’n y byd po gyntaf.
Iechyd Rhywiol
Chwaraewch yn Ddiogel
Gall y dewis o gael rhyw ai peidio fod yn benderfyniad anodd ei wneud. Ond yn y pendraw mae hynny ynglŷn â beth sy’n iawn i chi, a dim ond chi all ateb hynny.
Os ydych eich dau yn penderfynu eich bod eisiau cael rhyw, yna mae’n debyg y bydd y ddau ohonoch eisiau gostwng y risg o feichiogrwydd diangen a diogelu eich gilydd rhag heintiau rhywiol. Mae heintiau rhywiol yn gyffredin iawn, ond gall condoms, o’u defnyddio’n gywir, eich diogelu rhagddynt.
Bod â Rheolaeth dros y Sefyllfa
Mae codi mater rhyw fwy diogel yn anodd ac nid oes atebion hawdd. Fel rheol, bod yn barod ac wedi’ch paratoi yw’r cam cyntaf tuag at ryw fwy diogel. Nid yw hynny’n golygu y cewch lai o hwyl, nac ychwaith eich bod yn bwriadu cysgu o gwmpas. Dyma’r peth synhwyrol i’w wneud.
Felly os ydych yn debyg o fod mewn sefyllfa lle mae’n bosib y gwnewch chi gael rhyw, efallai ar ôl bod mewn parti, tafarn neu glwb – gwnewch yn siŵr bod gennych gondom. Mynegi eich bod eisiau defnyddio condom yw’r peth mwyaf anodd, ond efallai y cewch eich siomi ar yr ochr orau. Efallai y bydd eich partner yn ei chael hi’r un mor anodd ac yn croesawu’r arweiniad.
Byddwch yn Wyliadwrus
Mae alcohol (heb sôn am gyffuriau) yn gallu lleihau swildod a’ch gwneud yn llai tebyg o ymatal. Efallai na fyddwch yn sylweddoli hynny, ond gall hyd yn oed ychydig o alcohol effeithio ar sut y byddwch yn ymddwyn, ac mae’n bosib i chi wneud rhywbeth y byddwch yn ei ddifaru’n ddiweddarach.
Beth am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol?
Ceir llawer o wahanol heintiau a drosglwyddir yn rhywiol; mae’r rhain yn cynnwys:
- Chlamydia
- Syffilis
- Herpes
- Dafadennau Gwenerol
- Gonorea (y ‘clap’ ar lafar weithiau)
- Trichomonas vaginalis
- HIV
Y peth pwysicaf i’w sylweddoli am heintiau rhywiol yw y gall unrhyw un sy’n cael rhyw gael eu heintio; p’un ai eich bod yn hen neu’n ifanc, yn wrywaidd neu’n fenywaidd, yn strêt, hoyw neu’n lesbiaidd.
Y newyddion da yw y gall y rhan fwyaf o heintiau a drosglwyddir yn rhywiol gael eu trin yn gyflym ac yn rhwydd os y’u canfyddir yn ddigon cynnar. Ond gall rhai ohonynt beri problemau tymor hir, fel anffrwythlondeb i ferched, os y’u gadewir heb eu trin.
Lle i fynd i gael cymorth:
Gellwch fynd i un o’r canlynol:
- clinig iechyd rhywiol, a elwir fel arfer yn glinig STD neu GUM (mae’r un lleol yn Ysbyty Gwynedd; rhif cyswllt y clinig 01248 384054)
- Eich meddyg teulu
- Meddygfa Bodnant, Rhodfa Menai; galwch heibio neu rhowch alwad i 01248 364492.
- Profi a phostio: profi cartref am heintiau a drosglwyddir yn rhywiol (STI’s)