Amlygodd dadansoddiad annibynnol gan y Gymdeithas Ffisiolegol (2019) o gyfraniad Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer i economi'r Deyrnas Unedig fod:
- graddedigion yn ennill £5.5 am bob £1 y byddant yn ei wario ar addysg Prifysgol (adenillion blynyddol o 20.9%)
- graddedigion yn ennill £667,000 yn fwy trwy gydol eu bywyd gwaith o gymharu â phe bai ganddynt ddim ond cymhwyster lefel 3 (e.e. Safon Uwch, BTEC)
- y maes Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer yn dal gafael ar 71% o raddedigion sy'n arwydd o natur gwerth chweil a difyr y sector hwn
- y maes yn cyfrannu £3.9 biliwn y flwyddyn i economi'r Deyrnas Unedig ac yn cynnal mwy na 147,300 o swyddiÂ
Nod ein rhaglenni gradd mewn gwyddorau chwaraeon yw eich gwneud mor gyflogadwy â phosibl trwy eich helpu i fagu profiad ymarferol ochr yn ochr â'r elfen addysgu. Mae'r profiad hwnnw'n cynnwys sesiynau ymarferol yn y labordy, project ymchwil neu draethawd hir ac arddangosiadau, tiwtorialau ac ymchwil. Gallwch gael profiad bywyd go iawn yn gweithio dramor ynghyd â datblygu cymwysterau proffesiynol ychwanegol mewn nifer o feysydd. Trwy'r cysylltiadau helaeth sydd gennym gyda sefydliadau chwaraeon, y GIG, a'r Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, gallwn gynnig cyfnodau byr ar leoliad gwaith, lle cewch eich mentora, ochr yn ochr â'ch rhaglenni gradd mewn meysydd sy'n cynnwys:
- hyfforddiant chwaraeon
- dadansoddi perfformiad
- cryfder a chyflyru
- ymarfer ac iechyd
- adferiad cardiaidd
- ffisioleg resbiradol
Gallwch roi hwb pellach i'ch dyheadau gyrfa trwy dreulio blwyddyn ar leoliad gwaith. Mae'r cyfleoedd hyn yn eich galluogi i weithio gydag arbenigwyr mewn maes sy'n berthnasol i'ch gradd ac i'ch gyrfa yn y dyfodol. Fe gewch hefyd fudd o'n gweithdai cyflogadwyedd, yr wythnos cyflogadwyedd a'r ffair yrfaoedd lle cewch gwrdd â chyn-fyfyrwyr, siarad â darpar gyflogwyr yn y sector, a dysgu am gynlluniau cyflogi graddedigion ac am lwybrau gyrfa mewn gwyddorau chwaraeon.
Mae swyddi gwerth chweil sy'n talu'n dda i'w cael trwy ddilyn cwrs mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer. Mae'r farchnad yn amrywiol ac yn tyfu o hyd. Rhestrir rhai o'r gyrfaoedd mwyaf 'traddodiadol' isod:
- Gwyddonydd Chwaraeon (amrywiol sefydliadau chwaraeon)
- Gwyddonydd Talent
- Gwyddonydd Datblygu Llwybr
- Cynorthwy-ydd Datblygu Chwaraeon
- Cynorthwyydd Therapi
- Gwyddonydd Biofeddygol
- Ymgynghorydd Iechyd
- Athro Addysg Gorfforol
- Rheolwr a Hyfforddwr Cynorthwyol
- Cardiograffydd
- Ffisiolegydd Resbiradol
- Rheolwr Datblygu Busnes
- Arbenigwr Ymarfer Clinigol
- Ymgynghorydd Recriwtio
- Ymchwilydd
- Twristiaeth AnturÂ
Neu fe allech ddefnyddio eich gradd a'r sgiliau trosglwyddadwy y byddwch wedi eu meithrin i weithio ym maes rheoli, yr heddlu, y lluoedd arfog, y gwasanaethau brys neu i sefydlu eich busnes eich hun, fel y mae llawer o'n cyn-fyfyrwyr wedi'i wneud.
Yn ogystal â'r opsiynau gyrfa cyffrous hyn, mae sawl llwybr ar gael ym Mangor i ddatblygu eich gyrfa academaidd ymhellach. Mae'r brifysgol yn cynnig graddau ôl-radd mewn meysydd megis Seicoleg/Ffisioleg Chwaraeon ac Ymarfer, Adferiad trwy Ymarfer, Ffisiotherapi neu Hyfforddiant Athrawon mewn Addysg Gorfforol.